1-2Mae’r Arglwydd yn frenin; boed lawen y byd
Hyd eitha’r ynysoedd pellennig i gyd.
Mae cwmwl a chaddug o’i amgylch, a sail
Ei orsedd yw barn a chyfiawnder di-ail.
3-5Mae’n llosgi’i elynion oddi amgylch â thân.
Mae’i fellt yn goleuo y ddaear achlân.
Mae’r holl fyd yn gweld, ac yn crynu yn llwyr
O’i flaen, a’r mynyddoedd yn toddi fel cwyr.
6-7Mae’r nef yn cyhoeddi’i gyfiawnder, a gwêl
Y bobl ei ogoniant. Cywilydd a ddêl
Ar bawb sy’n addoli gau-dduwiau di-werth.
Ymgrymwch, chwi dduwiau, i Arglwydd pob nerth.
8-9O achos dy farnedigaethau, llon yw
Jerwsalem a threfi Jwda, O Dduw.
Oherwydd yr ydwyt goruwch yr holl fyd;
Dyrchafwyd di’n uwch na’r holl dduwiau i gyd.
10-12Fe gâr Duw gasawyr drygioni, a dwg
Fywydau’i ffyddloniaid o ddwylo’r rhai drwg.
Llewyrcha goleuni ar yr uniawn. O dewch,
Rai cyfiawn, a molwch; yn Nuw llawenhewch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.