Salmau 149 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 149Emyn o fuddugoliaethSlane 11.11.11.11

1-2O molwch yr Arglwydd! Boed newydd eich cân

Ymhlith cynulleidfa’r ffyddloniaid yn dân.

Boed Israel yn llon yn ei chrëwr a’i Duw,

Clodfored plant Seion eu brenin a’u llyw.

3-5Â thympan a thelyn, ar ddawns ysgafn droed

Moliannwch! Mae’n Duw’n caru’i bobl erioed.

Mae’n gwared y gwylaidd. O bydded i’r saint

Roi mawl mewn gogoniant gan gymaint eu braint.

6-8Molianned eu genau ein Duw yn ddi-daw.

Boed cleddyf daufiniog yn noeth yn eu llaw

I ddial ar wledydd a phobloedd y byd,

A rhwymo â chadwynau’r brenhinoedd i gyd.

9Cans hon ydyw’r farn sydd i ddod arnynt hwy –

Yr heyrn a’r hualau; ac yna byth mwy

Teyrnasa cyfiawnder yr Arglwydd; ef yw

Gogoniant y ffyddlon. O molwch ein Duw!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help