1-3Ar fryniau sanctaidd y sylfaenodd hi,
Ac fe roes yr Arglwydd iddi fwy o fri
Na holl drefi Jacob. Gogoneddus yw
Pob rhyw sôn amdanat ti, O ddinas Duw.
5 Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.
Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.
4Yr wyf yn enwi’r Aifft a Babilon
Ymhlith y cenhedloedd sy’n cydnabod hon;
Yn Philistia a Thyrus, Ethiopia i gyd,
Gwelir i blant Seion wasgar drwy’r holl fyd.
5Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.
Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.
6-7Wrth restru’r bobloedd, bydd yr Arglwydd Dduw
Yn cofnodi am lawer, “Un o Seion yw”.
Dawnswyr a chantorion, unant yn y gri:
“Mae ein holl darddiadau, Seion, ynot ti”.
5 Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.
Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.