Salmau 94 - New Metrical Psalms 2008 (Gwynn ap Gwilym)

SALM 94Duw’n sefyll dros y cyfiawnEllers 10.10.10.10

1-4O dial, Arglwydd Dduw, ti farnwr byd,

Rho’u haeddiant i’r rhai beilchion. Am ba hyd

Y caiff y drwg, â’u parabl trahaus,

Barhau i ymfalchïo mor sarhaus?

5-7Y maent yn sigo d’etifeddiaeth di,

Yn lladd ein gweddwon a’n hamddifaid ni.

Llofruddiant yr estroniaid yn ein plith,

Cans dweud y maent, “Ni sylwa’r Arglwydd byth”.

8-11Deallwch hyn, chwi ffyliaid: Oni chlyw

Yr un a blannodd glust, ac onid yw

Lluniwr pob llygad yn gweld drosto’i hun?

Fe ŵyr yr Arglwydd holl feddyliau dyn.

12-15Gwyn fyd y sawl y dysgi iddo, O Dduw,

Dy gyfraith, a’i ddisgyblu. Diogel yw

Rhag ing. Caiff eto d’etifeddiaeth di

Farn deg, a’r uniawn yn ei dilyn hi.

16-18Pwy a saif drosof rhag y rhai a wna

Weithredoedd drwg? Mi fyddwn, Arglwydd da,

Yn nhir y bedd ond am dy gymorth di.

Pan lithrwn, daliai dy ffyddlondeb fi.

19-21Er bod pryderon mawr yn fy nhristáu,

Mae dy gysuron di’n fy llawenhau.

A wnei di gynghrair gyda barnwyr sy’n

Condemnio’r cyfiawn, ac yn elwa’u hun?

22-23Ond craig a lloches imi ydyw Duw.

Am y rhai drwg, fe’u tyrr o dir y byw.

Fe’u llwyr ddiddyma’r Arglwydd, ac fe ddwg

Arnynt eu hunain eu gweithredoedd drwg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help