1Canaf am ffyddlondeb,
Canaf am uniondeb;
I ti, dirion Arglwydd,
Pynciaf gerdd yn ebrwydd.
2Dy ffordd di a ddysgaf.
Pryd y deui ataf?
Byddaf gywir-galon
Ymysg fy nghymdeithion.
3Ni osodaf lygad
Ar ddim byd sy’n anfad.
Cas yw gennyf dwyllwr:
Ni rof iddo swcwr.
4Cilia’r gwyrgam galon
Rhagof ar eu hunion.
Ni wnaf gymdeithasu
Gyda’r sawl sy’n pechu.
5Y sawl sy’n enllibio
Cyfaill, rhof daw arno;
Ac ni allaf arddel
Y rhai balch, ffroenuchel.
6Ond y mae fy llygaid
Ar y gwir ffyddloniaid.
Pobl y ffordd berffeithiaf
A gaiff weini arnaf.
7Ni chaiff neb sy’n twyllo
Yn fy nhŷ breswylio,
Ac ni chaiff celwyddgi
Aros yn fy ngŵydd i.
8Ddydd wrth ddydd helbulus,
Tawaf y drygionus;
Trof hwy i ffwrdd o ddinas
Duw, ddihirod atgas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.