1Molwch yr Arglwydd. Molwch Dduw
Yn mhurdeb ei sancteiddrwydd gwiw:
Molwch ef, nef y nef.
2Ei enw molwch — rhowch fawrhâd
A chlodydd i’w gadernid mâd,
O! molwch, molwch ef.
3Molwch â llais yr udgorn cry’,
Y nabl fwyn, a’r delyn gu,
4A thympan, dawns, a chân:
A’r dwsmel esmwyth, molwch ef,
Ac â phibellau ’r organ gref,
Molwch ei enw glân.
5Gwnewch i’r symbalau seinio i gyd
Ei glodydd allan dros y byd:
Molwch yr Arglwydd Dduw.
6Molianned pawb sy’n berchen chwyth,
Ei enw’n bêr heb dewi byth:
Anfeidrol deilwng yw!
Nodiadau.
Yma y terfyna y Salmau yn oddaith o fawl! Gelwir a chymmhellir pob perchen anadl i foliannu yr Arglwydd ar bob offer cerdd oedd yn adnabyddus ac arferedig yn Israel ar y pryd. Pa un a ydyw defnyddio gwahanol offerynau cerdd, o’r fath a enwir yma, yn gydweddol â gwasanaeth addoliad eglwys Dduw dan y Testament Newydd, neu nad yw, ni cheisiaf fi benderfynu. Beth bynag, y mae mawl i aros iddo ef yn Seion byth, ac i gael ei gyflwyno yn gymdeithasol hefyd. Nid oes un ddeddf ynghylch y ffurf o foliannu i’w chael yn y Testament Newydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.