1Clodforwch bawb yr Arglwydd nef,
A gelwch ar ei enw mawr,
Mynegwch ei weithredoedd ef
Yn mysg y bobloedd ar y llawr:
2Canmolwch, cenwch iddo glod,
Cydsoniwch oll am waith ein Duw,
3Yn enw y Goruchaf Fod
Ymlawenhewch, can’s sanctaidd yw.
A llawenhaed calonau y rhai
A geisiant Dduw o gywir fryd;
4O! ceisiwch ef a’i nerth didrai,
Ceisiwch ei wyneb ef o hyd:
5Cofiwch y rhyfeddodau wnaeth
Efe, a’i wyrthiau mawr eu rhi’,
A’r barnau pur a’r deddfau ddaeth
O’i enau sanctaidd ef i ni.
6Chwychwi, had Abraham ei was,
Chwi, meibion Iago, ’i ddewis rai:
7Ei farnau sydd drwy ’r ddaear lâs,
Ein Duw ni ydyw i barhau.
8Fe gofia ei gyfammod byth,
Y gair orch’mynodd ef i fil
O genedlaethau, sai’n ddilyth,
A sicr iawn i’w bobl a’u hil.
9Ag Abr’am gwnaeth yr ammod gref,
A’i lŵ i Isaac;
10a thrachefn
I Iago ’n ddeddf y rhoddes ef
I Israel yn dragwyddol drefn:
11Gan ddweyd, Tir Canaan roddais i
I chwi yn etifeddiaeth rad,
12Pan nad o’ent ond ychydig ri’,
Ac yn ddyeithriaid yn y wlad.
13Yn nyddiau ’u pererindod gynt,
Pan rodient hwy o wlad i wlad,
14Gofalodd am eu cadw hwynt
Rhag trais, a phob niweidiol frâd;
Dan gysgod nawdd ei aden o
Diogel oeddynt rhag pob nam;
Ceryddodd rai brenhinoedd, do,
Gynnygient wneuthur iddynt gam,
15Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch chwi
A’m rhai eneiniog unrhyw bryd;
Na ddrygwch fy mhrophwydi i,
Rhag i mi eich dyfetha ’nghyd.
16Galwodd am newyn ar y tir;
Dyfetha bara dyn a wnaeth:
17Danfonodd ŵr o’u blaen yn hir,
Sef Ioseph, ga’dd ei werthu ’n gaeth.
Rhan II.8.7.
18Cystuddiasant Ioseph yno,
Rhoed ei draed mewn gefyn tỳn,
Aeth ei enaid ef mewn heiyrn,
Aeth i drallod mawr fel hyn;
19Hyd nes daeth y pryd nodedig,
Pan anfonodd Duw ei air,
Dygodd e’n ddiangol allan
Wedi ei brofi yn y pair.
20Pharaoh frenin a anfonodd,
Llywodraethwr pobl y wlad,
Cyrchodd ef o’r carchar allan
I anrhydedd a mawrhâd;
21A gosododd ef yn arglwydd
Ar ei dŷ a’i gyfoeth drud,
22Rhoddes ef i lywodraethu
Ei dywysogion wrth ei fryd.
23Ac i’r Aipht aeth Israel yntau;
Teithiodd Iago yn nhir Ham,
24A chynnyddu yno ’n ddirfawr
Wnaeth dan fendith Duw bob cam;
Cryfach aeth na’i wrthwynebwyr —
25Troisant hwythau i gashâu
Pobl Dduw, ac yn ddichellgar
Gwnaent â’i weision i’w sarhau.
26Yna fe anfonodd Moesen,
Aaron hefyd gydag ef,
27Dangosasant hwy arwyddion
Yn eu plith, a gallu ’r Nef:
28Galwodd am dywyllwch arnynt,
A thywyllu wnaeth eu tir —
Ufuddhau a wnai ’r elfenau
I’w awdurdod ef yn wir.
Rhan III.8.7.
29Trodd eu dwfr yn waed, a lladdodd
Bysgod eu hafonydd hwy;
30Yn eu tir, a thai ’u brenhinoedd,
Heigiodd llyffaint fwy na mwy;
31Ef a dd’wedodd — daeth cymmysgbla,
Llau a hulient drwy y fro,
32Gwnaeth eu gwlaw yn geryg cenllysg,
Ac yn fflamau tân un tro.
33T’rawodd ef eu gwinwydd tyner
Hefyd, a’u ffigyswydd îr;
Drylliodd gyda’i fellt ofnadwy
Yr holl goed o fewn eu tir;
34Archodd — daeth locustiaid allan,
Lindys, yn aneirif lu;
35’Rhai fwytasant eu holl laswellt,
Gwnaeth eu tir yn noeth a du.
36Eu holl gyntaf‐anedigion
A darawodd drwy y fro;
Blaenffrwyth nerth gelynion Israel,
Yn ei lid a laddodd o:
37Dygodd hwynt âg aur ac arian
Allan o’u caethiwed tost,
Heb un llesg o fewn eu llwythau —
Gwnaeth i Pharaoh dalu ’r gôst.
Rhan IV.8.7.
38Llawenhaai yr Aipht eu gweled
Yn myn’d allan dan eu rhi’,
Canys fe syrthiasai arswyd
Duw, a’i bobl, arni hi;
39Taenodd ef ei gwmmwl disglaer
Drostynt hwy yn dô bob nos,
I’w goleuo ar eu teithiau
Fel na syrthiai ’r un i’r ffos.
40Gofynasant gig — ac yntau
Ddug y soflieir gyda’r gwynt;
Ac â bara nefol hefyd,
Porthodd a diwallodd hwynt;
41Holltodd ef y graig, a thynodd
Ddyfroedd gloyw ’n ffrydiau byw,
’Rhai a gerddent yn afonydd
Drwy yr anial sych a gwyw.
42Canys cofiodd ei air sanctaidd,
Cofiodd Abraham ei was,
43Ac a ddug ei bobl felly
Mewn gorfoledd yn ei ras;
44Rhoddes diroedd y cenhedloedd
I’w meddiannu iddynt hwy;
Felly cawsant etifeddu
Llafur pobloedd fwy na mwy.
45Fel y cadwent hwy ei ddeddfau
A’i gyfreithiau sanctaidd ef.
Molwch enw ’r Arglwydd! Cenwch
Iddo glod ar lafar lef.
Nodiadau.
Rhoddodd Dafydd ran o’r salm hon “yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaph a’i frodyr;” 1 Cron. xvi. 17. Y mae y rhan gyntaf o honi, hyd adn. 15, yn y bennod hono — o adn. 8 hyd adn. 22, gydag ychydig iawn o wahaniaeth. Ond y mae y gyfran olaf o’r gân yn y ddau le yn wahanol; a’r tebygolrwydd yw, i Dafydd yn mhen amser wedi iddo roddi y salm i Asaph, ei hail drefnu, a thori allan y rhan o adn. 23 hyd adn. 36, i wneyd lle yma i ymhelaethu ar hanes gwyrthiau daioni Duw i hâd Abraham o ddyddiau Ioseph hyd eu dygiad i Ganaan. Cymmerodd ddiwedd y salm, fel y mae yn y Cronicl (adn. 35, 36) i derfynu y salm nesaf (Salm cvi.), lle y diwedda efe ei gân ar y testyn.
Y mae Asaph yn canu ar destyn y salmau hyn yn Salm lxxviii; a gwneir llawer iawn o gyfeiriadau yn achlysurol mewn salmau ereill at ffeithiau yn hanes y genedl yn yr Aipht, ac yn yr anialwch. Amcan a dyben y Salmydd ydoedd argraphu yn ddwfn ar gof a chalon y genedl y pryd hwnw ei rhwymedigaethau i fawrhau a chlodfori Duw wrth goffadwriaeth amlder ei drugareddau, ei ryfeddodau, a’i waredigaethau iddi er dyddiau ei thadau cyntaf. Geilw arni yn nechreu y gân hon i gofio y rhyfeddodau a wnaeth efe, ei wyrthiau a barnedigaethau ei enau: yna ä yn mlaen i adrodd hanes y rhyfeddodau a’r gwyrthiau hyny, a dyma un modd arbenig yn yr hwn yr oedd efe, fel y dywed yr apostol am dano, “yn gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw;” Act. xiii. 36. Ac wrth wasanaethu ei genhedlaeth ei hun felly, efe a wasanaethodd bob cenhedlaeth ac oes hefyd.
Ai nid oes arnom ninnau, fel cenedl, fwy o rwymedigaethau nag a ddarfu i ni erioed gydnabod nac ystyried, i fawrhau yr Arglwydd mewn diolchgarwch wrth goffadwriaeth amlder ei ddaioni i ni er dyddiau ein tadau? Ymwelodd â ni yn foreu yn yr efengyl; dygodd ein hynafiaid boreuol yn rhyddion o dywyllwch Derwyddiaeth a choelgrefydd; a thrachefn, yn ddiweddarach, o efynau twyll, hygoeledd, a thrueni Pabyddiaeth; a dyrchafodd ni i ragorfreintiau a mantesion gwybodaeth efengylaidd uwchlaw pob cenedl arall o ddynion, fel y gwelir heddyw. Pan feddyliom fel y mae y genedl Wyddelig, yn ein hymyl, wedi ei mathru i’r llawr ac i’r trueni dyfnaf dan draed y dwyll offeiriadaeth Babaidd, yn sicr y mae ein rhwymedigaethau i’r ddyledswydd a gymmhella Dafydd yn y salm hon ar ei genhedlaeth ef o blant Israel yn fawrion iawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.