1Gwyn fyd y gŵr sy’n ofni Duw,
Gan rodio ’n ffyrdd y nef;
2Ffrwyth gwaith ei ddwylaw a fwynhâ,
A da fydd iddo ef.
3Ei wraig fydd fel gwinwydden deg
Ar hyd ystlysau ’i dŷ;
A’i blant fel îr olewydd plan,
O gylch ei ford yn llu.
4Fel hyn o hyd y ffỳna’r gŵr
A ofno Dduw ’n ddiau;
5Yr Arglwydd a’i bendithia ef
O Seion i barhau.
Caiff wel’d daioni Salem Duw
Drwy ’i einioes hyd ei fedd;
6Caiff weled plant ei blant, a gwel’d
Ar Israel dawel hedd.
Nodiadau.
Salm deuluaidd etto — yn dysgu mai y wir, a’r unig ffordd, i etifeddu y “fendith sydd yn cyfoethogi, ac nad yw yn dwyn blinder gyda hi,” yw ffordd ufudd‐dod i orchymynion Duw. Sicrheir fod pob un “sydd yn ofni yr Arglwydd, ac yn rhodio yn ei ffyrdd ef,” yn wynfydedig ynddo ei hun — yn y cyflawniad o ddyledswyddau cyffredin bywyd, ac ennillion llafur ei ddwylaw, am ei fod yn y cwbl dan fendith a boddlonrwydd Duw. Y mae ei “bryd o ddail” ef yn well nag “ŷch pasgedig” y drygionus. Cyhoeddir ef yn wynfydedig hefyd yn ei gyssylltiadau teuluaidd, ei wraig a’i blant, am fod bendith yr Arglwydd yn ei drigfan. Sicrheir hyn yn bendant:— “Fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd.” Os na fendithir ef â llawer o gyfoeth, a da y byd hwn, fe’i bendithir â’r hyn sydd yn llawer gwell na chyfoeth:— meddwl tawel, teulu cariadlawn, calon ddiolchgar, ac ysbryd boddlongar; yr hyn a wna’r ychydig sydd ganddo yn “well na mawr olud annuwiolion lawer.” Fe’i bendithir yn ysbrydol hefyd — allan o Seion; â’r bendithion addawedig i Seion, ïe, a rwymodd yr Arglwydd yn Seion; nid yn unig bendithion a berthynant i’r bywyd sydd yr awr hon, ond i’r hwn a fydd hefyd:— “Y daioni a roddodd Duw i’w gadw i’r rhai a’i hofnant ef.” Fe gaiff weled daioni Ierusalem, heddwch a llwyddiant eglwys Dduw; yr hon sydd yn un o’r pethau penaf, ïe, y peth penaf oll, a ddymuna yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd ei weled. A chyda hyn oll, y mae ar y ffordd fwyaf tebygol i fyw yn hir, i weled lliosogiad a llwyddiant ei deulu. Fe dystia rheswm ac Ysgrythyr fod cadw gorchymynion Duw yn ei air yn fanteisiol i iechyd a hir hoedledd:— “Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeheu hi.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.