1Wrth afonydd Babel, yno
Eisteddasom lawer awr,
Gan gydwylo wrth gofio Seion
Dan ryw faich o hiraeth mawr;
2Ar yr helyg ger llaw’r afon,
Crogem ein telynau ’n brudd;
Dagrau’r gwlith ireiddiai ’u tannau,
A’n dagrau ninnau rychai ’n grudd.
3Deuai y rhai a’n caethiwasent
Atom, a gofynent gân:—
“Moeswch,” meddent, “ar y delyn,
Rai o dônau’ch Salem lân:”
4“P’odd y canwn gerdd yr Arglwydd,”
Meddem, “mewn estronol fro?
Er pan ddaethom yma i Babel,
Aeth y canu oll o’n co’.”
5Os anghofiaf di, Caersalem,
Colled fy neheulaw ’i chwant
Byth i estyn at y delyn,
Nac i daraw bys ar dant;
6Wrth ei daflod glyno’m tafod,
Salem, oni chofiaf di,
Os na byddi yn fy nghalon,
Fy llawenydd penaf i.
7Cofia, Arglwydd, feibion Edom,
Yn y dydd ’r ymweli â ni,
Rhai a dd’wedent am Gaersalem,
“Hyd ei sylfaen, noethwch hi.”
8O! ferch Babel, ti anrheithir,
Sethrir yn y llwch dy fri;
Gwyn fyd hwnw wnelo i ti
Fel y gwnaethost ti â ni;
9Gwyn fyd d’rawo dy rai bychain
Wrth y meini heb wrando ’u cri,
Felly, O! ferch Babel greulawn,
Felly gwnaethost ti â ni.
Nodiadau.
Cyfansoddwyd y gân dyner gwynfanus hon gan un o’r caethion yn Babilon yn ddiau. Y mae llais un personol brofiadol o’r hiraeth a’r tristwch a draethir i’w glywed ynddi. Priodolid hi i Ieremiah gan amryw o’r deonglwyr henafol o’r Ysgrythyr; ond ni bu efe erioed yn Babilon yn mysg meibion y gaethglud. Gadawyd ef ar ol yn ngwlad Iudea, a dygwyd ef o’i anfodd i’r Aipht gan y gweddill a adawsid yn Iudah ac Ierusalem gan frenin Babilon, y rhai a fynent fyned i drigo yn yr Aipht yn groes i ewyllys a gorchymyn Duw trwy enau y prophwyd; ac yno y bu efe farw, y mae yn debygol. Anturiwn ofyn, er na chrybwyllwyd y cyfryw dybiaeth gan neb, ar a wyddom — Ai nid yw yn debygol mai y prophwyd Ezeciel, yr hwn oedd un o feibion caethglud Iudah, a’i cyfansoddodd? Pwy bynag a ddarlleno ei brophwydoliaeth ef yn erbyn Mynydd Seir, gwlad Edom, yn pen. xxxv, o’i lyfr, a wêl amryw ymadroddion yn cyd‐daraw yn hynod â’r cyfeiriad at ferch Edom ar ddiwedd y salm hon.
Cenir y salm yn enw ffyddloniaid Seion yn gyffredinol yn mysg y gaethglud, y rhai na fynent er dim halogi caniadau cyssegr eu Duw yn Seion i foddhau anrheithwyr y cyssegr hwnw yn Babilon. Ni allent hwy feddwl rhoi eu pethau sanctaidd i’r cŵn, a thaflu eu gemau o flaen y moch:— esampl deilwng i blant Seion ei chofio a’i dilyn pan yn digwydd bod yn mysg dynion ofer a digrefydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.