1Duw sydd yn teyrnasu; cryned
Yr holl bobloedd ger ei fron;
Eistedd mae rhwng y cerubiaid,
Ymgynnhyrfed daear gron.
2Mawr yw ’r Arglwydd yn ei Seion,
Dyrchafedig yw efe
Mewn mawrhydi a gogoniant
Uwch law ’r bobloedd dan y ne.
3D’ enw mawr a gydfoliannant,
Sanctaidd ac ofnadwy yw;
4Brenin mawr a gâr uniondeb,
A chyfiawnder wyt, O Dduw!
Barn ac iawnder wnai yn Iacob,
5Cyd‐ddyrchefwch Dduw y nef;
Cydymgrymwch wrth ei stôl‐droed
Canys sanctaidd ydyw ef.
Rhan II.8.7.
6Moses, a’i frawd Aaron yntau,
Yn offeiriaid iddo fu;
Samuel yn mysg y rhei’ny
Alwent ar ei enw cu;
Yntau a wrandawodd arnynt,
7Wrthynt y llefarodd ef
Yn y golofn gwmmwl; hwythau
Gadwent dystiolaethau ’r nef.
8Pan y sorodd wrth ei weision,
Ac rho’es arnynt gerydd am
Iddynt hwy droseddu ’i eiriau
Yn eu nwyd, a dweyd ar gam;
Etto yn ei ras maddeuol
Fe’u harbedodd megys tad,
Ond ni chawsant fyned trosodd
I feddiannu’r Ganaan wlad.
9Cyd‐ddyrchefwch a chlodforwch
Enw ’r Arglwydd mawr ein Duw,
Ac ymgrymwch ar ei fynydd
Sanctaidd ef, ein Seion wiw;
Canys sanctaidd ac ofnadwy
Yw yr Arglwydd, ein Duw ni,
Iddo ef yn unig perthyn
Pob addoliad, mawl, a bri.
Nodiadau.
Chwaer undad i’r tair salm blaenorol ydyw hon, dybygid. Nid all ei bod yn ddiweddarach na Dafydd. Tuag amser y dychweliad o Babilon, fel y mynai rhai ddadleu. Pe felly, enwasid rhywrai o’r prophwydi ar ol Samuel ynddi, a Dafydd ei hun, bid sicr; ond yn amser Dafydd nid oedd un prophwyd nodedig i grybwyll ei enw gyda Moses ac Aaron, ond Samuel.
Yn y salmau o’r blaen, gelwir ar y ddaear a’i chenhedloedd i lawenhau a gorfoleddu yn yr ystyriaeth mai Iehofah sy’n teyrnasu — bod yr hwn a wnaeth y byd yn gofalu am dano, a’i holl achosion. Yn hon, dygir yr ystyriaeth gyferbyniol yn mlaen:— “Cryned y bobloedd, ymgynnhyrfed y ddaear” — megys y dywedir yn yr ail salm, “Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd, ac ymlawenhewch mewn dychryn.” Y mae efe i’w addoli a’i wasanaethu mewn llawenydd, ac ar yr un pryd “gyda gwylder a pharchedig ofn.” Gelwir yma drachefn a thrachefn ar y bobl i wneyd hyny, ac “ymgrymu wrth ei ystôl‐droed ef, ar ei fynydd sanctaidd, Seion;” a hyny am ei fod “yn fawr a dyrchafedig goruwch yr holl bobloedd,” a’i enw “yn ofnadwy, ac yn sanctaidd,” & c., ac hefyd am ei fod yn gwrandaw gweddi, ac yn derbyn addoliad gan ei greaduriaid; a dygir Moses, ac Aaron, a Samuel fel ychydig o lawer o enghreifftiau sydd yn dangos hyny.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.