1Iehofah, Frenin mawr,
Ef yn teyrnasu sy’ —
Caned y ddaear lawr,
A’i holl liosog lu:
A llawenhaed ynysoedd pell —
Erioed ni chlywsant newydd gwell.
2Cymmylau a th’w’llwch mawr
A guddiant wawr ei wedd;
Ond iawnder pur a barn
Yw cadarn drigfa ’i sedd:
3Tân ä o’i flaen, a llysg i’r llawr
Ei holl elynion, fach a mawr.
4Ehed ei fellt trwy’r byd:
Y ddaear wêl, a chryn;
5Fel cŵyr mynyddau mawr
Doddant i’r llawr yn llyn:
O flaen mawrhydi ’r Arglwydd Dduw,
Sef, Arglwydd yr holl ddaear yw.
6Mynega ’r nef uwch law
Ei bur gyfiawnder gwiw,
A’i bobl oll a ddaw
I wel’d gogoniant Duw;
7Y rhai addolant ddelwau mud
A waradwyddir oll i gyd.
Y rhai ymffrostiant mewn
Eilunod gweigion gwyw,
Distewch; chwi dduwiau oll,
Addolwch o flaen Duw:
Yr unig wir anfeidrol fod,
Efe, efe a bïau ’r clod.
Rhan II.6.8.
8Seion a glywodd hyn,
A llawenychodd hon,
A merched Iudah ’i gyd
Wnaent orfoleddu ’n llon;
O herwydd bod dy farnau oll,
O Dduw! yn gyfiawn a digôll.
9Can’s ti, O Arglwydd! wyt
Yn ddyrchafedig iawn;
Uwch law pawb oll y sydd
Ar wyneb daear lawn;
A dirfawr y’th ddyrchafwyd di
Goruwch ei holl fawl‐dduwiau hi.
10’Rhai gerwch Dduw, casewch
Ddrygioni — cadw wna
Efe eneidiau ’i saint
Rhag pob rhyw haint a phla;
O law ’r annuwiol gweryd hwy,
Byth yn ddiogel byddant mwy.
Nodiadau.
Salm o’r un rediad ac ysbryd ac arfeddyd a’r salm flaenorol yw hon, ac o’r un awduriaeth; sef, yr eiddo Dafydd, yn ddiau. Gesyd yr apostol (Heb. i. 8) yr ymadrodd “Addolwch ef yr holl dduwiau,” yn adn. 7, yn ngenau y Tad, yn eu llefaru wrth y Mab, gyda’r cyfnewidiad o “angylion” yn lle “duwiau,” yn ol cyfieithiad y Deg a Thrigain, yr hwn a ddilynai Crist a’i apostolion yn y Testament Newydd agos bob amser yn eu dyfyniadau o’r Hen Destament. Cyttuna amryw o’r hen ddysgawdwyr Iuddewig â’r apostol yn hyn; sef, mai y Messïah a olygir wrth yr hwn y gelwir y duwiau neu yr angylion i’w addoli. Rhaid, ynte, fod y Messïah yn wir a phriodol Dduw, pan y gorchymynir i angylion Duw ei addoli ef. Pan syrthiai Ioan wrth draed yr angel oedd yn dadguddio gweledigaeth yr Ierusalem newydd iddo, gan gynnyg ei addoli, attebodd yr angel, gan ddywedyd, “Gwel na wnelych: canys cydwas ydwyf fi i ti, ac i’th frodyr y prophwydi, ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau y llyfr hwn. Addola Dduw;” Dad. xxii. 9. Ond ni warafunodd y Messiah yn nyddiau ei gnawd ar y ddaear, pan oedd efe “ar agwedd gwas,” i neb a syrthiai wrth ei draed ef i’w addoli, i wneyd hyny. Rhaid, naill ai bod y Messïah yn wir a phriodol Dduw, neu fod Paul wedi cyfeiliorni yn fawr wrth gymmhwyso yr ymadrodd “Ac addoled holl angylion Duw ef,” yn y salm hon, ato, fel y gwrthddrych iddynt i’w addoli, ac mewn llawer o fanau ereill yn ei epistolau yr un modd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.