Salmau 6 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM VI.M. C.I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.

1O Arglwydd! na cherydda fi

Yn mhoethder llym dy ŵg;

Na chospa fi mewn llid yn ol

Euogrwydd mawr fy nrwg.

2O! trugarhâ wrth druan llesg,

Iachâ fi, O! fy Nuw,

Fy esgyrn a gystuddiwyd, mae

Fy nghalon oll yn friw.

3Dychrynwyd f’ enaid yn fawr iawn:

O Arglwydd mawr! pa hyd?

4O! dychwel ataf — trugarhâ,

A gwared f’ enaid drud.

5Yn angeu nid oes goffa am

Dy enw byth yn bod,

Yn ystafellau oer y bedd

Ni thraetha neb dy glod.

6Diffygiais gan fy ochain trist;

Fy nagrau sydd bob nos

Yn gwlychu fy ngorweddfa fel

Pe byddwn yn y ffos.

7Fy llygad dreiliodd — pallu mae

Gan ddagrau tristwch llym,

Y boen a’r pryder barant hwy,

Fy holl elynion im’.

8Chwi weithwyr anghyfiawnder oll

Ciliwch oddi wrthyf draw,

Can’s Duw wrandawodd ar fy llef,

Ymwared imi ddaw.

9Duw glybu fy neisyfiad, a

Derbyniodd ef fy nghri:

10Gwaradwydd, trallod, gwarth a dôdd

Fy holl elynion i.

Nodiadau.

Gweddi y cystuddiol yn amser trallod yw y salm hon etto. Y mae swn cystudd allanol a mewnol — corphorol ac ysbrydol — i’w glywed ynddi; ond nid oes ynddi ddim i roddi ar ddeall i ni ar ba achlysur neillduol yn hanes y salmydd y cyfansoddwyd hi. Parai y cystudd corphorol yr oedd Dafydd ynddo ar y pryd iddo feddwl am feiau a cholliadau ei fywyd; terfysgai hyny ei feddwl a’i ysbryd âg ammheuon ac ofnau, rhag bod yr Arglwydd yn ei geryddu yn ei ŵg a’i anfoddlonrwydd; a gyrai hyny ef at Dduw mewn gweddi am drugaredd ac ymwared o’r cystudd, yn gorphorol ac ysbrydol, a thraetha, yn y diwedd, hyder yr estynid hyny iddo mewn attebiad. Pa mor drwm a chwerw bynag oedd y cystudd y cwynir yma o’i herwydd, cafodd y cystuddiedig lawer o ddaioni ysbrydol trwyddo, gan iddo ei ddwyn i feddwl am ei ffyrdd, a throi at Dduw mewn gweddi.

“Mae cystuddiau er daioni,

Er eu bod yn peri braw,

Magu dychryn mawr ac ofnau,

Ofni sydd, ac ofni a ddaw;

Galw beiau pell i’r golwg,

Rhwymo pechod fyrdd ynghyd,

Ofni henaint, ofni iengctid,

Etto bendith ŷ’nt i gyd.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help