1Bendigedig fyddo’r Arglwydd,
Ef yw’m nerth, a’m hardderchawgrwydd;
Dysg fi ’drin y cledd a’r bŵa —
Gwnaeth fi’n gadarn i ryfela.
2Fy nhrugaredd a’m diffynydd,
Fy nghraig, fy nharian, a’m Gwaredydd,
Ynddo ’n wastad y gobeithiaf:
Ef sy’n dwyn fy mhobl danaf.
3Beth yw dyn i ti i’w gofio,
Ac i osod mawredd arno?
4Dyn sydd debyg iawn i wagedd,
Diflanedig yw ei sylwedd.
5Arglwydd, gostwng lawr dy nefoedd;
Disgyn, cyffwrdd â’r mynyddoedd;
6Saetha fellt, gwasgara ’r dynion
Sydd, O Dduw! i ti’n elynion.
7Oddi uchod dy law anfon,
Gwared fi o ddyfroedd mawrion,
Rhag estroniaid gwâg ysgeler,
8Sydd â’u dwylaw ’n llawn o ffalsder.
9Canaf etto ganiad newydd
I ti, O! fy Nuw, a’m Harglwydd!
Ar y delyn bêr, a’r degtant,
Y datganaf dy ogoniant.
Rhan II.8au.
10Ef o’i garedigrwydd helaeth,
Rydd i’w frenin iechydwriaeth:
Gweryd Ddafydd yn wastadol
Rhag y cleddyf llym niweidiol.
11Gwared, achub fi o ddwylo
Meibion estron sy’n fy mlino;
Rhai llefara ’u genau wagedd,
A’u deheulaw ’n llawn o ffalsedd.
12Fel bo i’n meibion yn eu hie’ngctid
Dyfu fel olewydd hyfryd,
Ac bo’n merched fel colofnau
Prydferth welir wrth balasau.
13Fel bo’n celloedd oll yn llawnion
O bob lluniaeth a darparion;
Ac bo’n praidd yn myn’d ar gynnydd
Fil a myrddiwn ar ein dolydd.
14Fel bo’n hychain oll yn gryfion,
I lafurio ’n meusydd ffrwythlon:—
Heb ruthro i mewn, na myned allan,
Gwaedd na dychryn mewn un drigfan.
15Pobl wynfydedig ydynt
Hwy, y rhai mae felly iddynt;
Ond y bobl mae Iehofa
Yn Dduw iddynt, yw’r dedwydda’.
Nodiadau.
Rhyw fuddugoliaeth ar elynion oedd yn ymosod arno ar ddechreuad ei deyrnasiad, a chyn uniad llwythau Israel dan ei awdurdod, oedd yr achlysur i Dafydd gyfansoddi y salm hon, fe ymddengys. Rhydd y gogoniant oll i Dduw am y fuddugoliaeth, fel y gwnai bob amser, gan ymgysuro y byddai i’r llwythau oedd etto heb ei gydnabod fel eu brenin wneyd hyny wrth weled fel yr oedd yr Arglwydd yn ei lwyddo. Gweddïa am barhâd y nodded dwyfol iddo ef a’i lywodraeth, nes iddo orchfygu a darostwng y cenhedloedd gelynol oeddynt etto yn barod i ymosod arno; y rhai nad oedd dim heddwch i’w wneyd â hwy, am y torent bob cyttundeb, gan wylio ar bob adeg a mantais i ymosod arno. Geudeb a ffalsedd oedd eu holl addewidion, y rhai a dorent mor fuan ag y gwneid hwynt. Hiraetha am weled Israel Duw yn heddychol a llwyddiannus dan ei nawdd a’i fendith ef, fel “wedi eu rhyddhau oddi wrth eu gelynion, y gwasanaethent yr Arglwydd mewn llawenydd a chariad ger ei fron ef,” yna byddent yn bobl wynfydedig yn wir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.