Salmau 116 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM CXVI.8.7.4.

1-2Da fu genyf wrandaw o’r Arglwydd

Ar fy ngweddi, ar fy llef;

Ac am hyny llefaf finnau

Dros fy nyddiau arno ef.

3Aethau angeu,

Ofnau uffern wnaent fy nal.

Ing a blinder mawr a gefais,

4Yna gelwais ar fy Nuw —

D’wedais, Arglwydd, gwared f’enaid;

Achub, cadw fi yn fyw.

5Graslawn, cyfiawn,

A thosturiol yw ein Duw.

6’R arglwydd geidw ’r annichellgar;

Tlodais, ac achubodd fi:

7Dychwel, f’enaid, i’th orphwysfa;

Da fu’r Arglwydd wrthyt ti.

D’wedaf etto,

Da fu’r Arglwydd wrthyt ti.

8Herwydd it’ waredu f’enaid

Oddi wrth angeu, Arglwydd mawr,

Cadw’m llygaid oddi wrth ddagrau,

Cadw’m traed rhag llithro i lawr,

9Rhodiaf finnau,

Ger bron Duw yn nhir y byw.

Rhan

III.

8.7.4.

10Credais, yna mi leferais;

Cefais gystudd dirfawr, blin:

11Yn fy ffrwst, myfi a dd’wedais

Mai celwyddog yw pob dyn.

12Beth a dalaf

Am holl ddoniau Duw i mi?

13Phïol fawr yr iachawdwriaeth,

A gymmeraf — galw wnaf,

Y’mhob trallod, dan bob gwasgfa,

Byth ar enw mawr fy Naf:

14Talaf iddo,

F’ addunedau ’ngŵydd ei saint.

15Diau gwerthfawr yw marwolaeth

Ei saint ef yn ngolwg Duw;

16Un o’th weision ydwyf finnau,

Mab dy wasanaeth‐wraig wiw.

Ti a’m tynaist

I o’m rhwymau oll yn rhydd.

17Mi aberthaf i ti foliant;

Galwaf ar dy enw mawr,

18Talaf f’ addunedau i’r Arglwydd,

Oll yn ngŵydd ei bobl yn awr:

19Yn nghynteddau

Ei dŷ yn Salem. Molwch Dduw.

Nodiadau.

Priodola llawer y salm hon i Dafydd, pan oedd efe ar ffo rhag Absalom, medd rhai; ond mewn adolygiad ar holl drallodion ei fywyd, a’r gwaredigaethau a gawsai o honynt, medd ereill. I Hezeciah, ar ei adferiad o’i gystudd blin, y priodolir hi gan liaws o feirniaid; ac yn sicr, y mae yn bwrpasol iawn i’r amgylchiad hwnw.

Salm o fawl a diolch am waredigaethau o gyfyngderau ac ofnau ydyw, gan nad gan bwy y cyfansoddwyd hi; a gall pob credadyn a gystuddiwyd ac a waredwyd, ei gwneyd yn salm iddo ei hun, megys y gwnaeth miloedd hi, drwy ddadgan eu trallodau, eu hofnau, a’u diolchiadau, yn ei hymadroddion hi, ar ol yr hwn a’i cyfansoddodd gyntaf. Traetha y Salmydd yn gyntaf ei hyfrydwch yn y ffaith fod yr Arglwydd wedi, ac yn gwrandaw ar ei lef a’i weddïau; ac yn sicr, nid oes dim dan y nefoedd a ddichon roddi y fath hyfrydwch a diddanwch i’r enaid ag a rydd y sicrwydd fod Duw yn gwrandaw ei weddi iddo. Oddi ar y profiad hwn, penderfyna y Salmydd barhau i alw ar Dduw mewn gweddi dros holl ddyddiau ei fywyd. Yna adrodda hanes rhyw drallod blin y buasai ynddo pan yr oedd ofnau angeu ac uffern wedi ei ddal, ac yntau bron yn anobeithio am ymwared; pan, mewn attebiad i’w weddi, y gwaredwyd ef o’i gyfyngder: mewn canlyniad, y mae yntau yn moliannu ac yn gogoneddu ei Waredydd, ac yn penderfynu gwneyd hyny yn wastadol, yn gyhoeddus “yn nghynteddau tŷ’r Arglwydd, yn ngŵydd ei holl bobl ef.” Ac annoga ereill i wneyd yr un peth. Y mae’r lleferydd yma yn debyg iawn i leferydd Dafydd mewn llawer o’r Salmau, ac i leferydd Hezeciah hefyd yn ei ysgrifen pan glafychodd efe, a byw o hono o’i glefyd: Esa. xxxviii.

Yr ymadrodd, Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef, a gyfieitha Boothroyd fel hyn:— “Rhy werthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw ei saint ef, i’w rhoddi i farwolaeth;” hyny yw, gofala’r Arglwydd am fywydau ei weision, na chaiff dim eu niweidio nes y byddont wedi gorphen y gwaith a fwriadodd efe iddynt ei gyflawni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help