Salmau 125 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM CXXV.2.8.Caniad y Graddau.

1Y rhai

A bwysant ar eu Duw ’n ddiau,

Diysgog fyddant i barhau,

Fel mynydd Seion, cadarn, syth,

Yn sicr ar ei seiliau sydd,

Ac felly bydd yn para byth.

2Fel mae

Caersalem a’r mynyddau ’n cau

O’i hamgylch hi, ddiogel bau,

Fel hyny mae eu Duw ’n ddilyth,

Yn gylch o amgylch ei holl saint;

Mawr yw eu braint, fe’u ceidw byth.

(M. S.)

3Ni orphwys gwïalen annuw ’n hir,

Ar randir y cyfiawnion,

Rhag iddynt estyn dwylaw ’n ffol,

At waith annuwiol creulon.

4O Arglwydd! gwna ddaioni llawn

I’r rhai sydd uniawn galon;

5A’r rhai ymdroant i’w trofeydd,

Gỳr hwy ’n dorfeydd i’r cyffion.

Ac felly bydd ar Israel Duw,

Dangnefedd gwiw yn helaeth,

Ac erys bendith nef yn wir

Ar dir ein hetifeddiaeth.

Nodiadau.

Yn y salm hon, dadgenir dedwyddwch y rhai sydd yn ymddiried yn yr Arglwydd:— mater y traethir arno yn y Salmau, ac mewn rhanau ereill o’r Ysgrythyr. Y mae eu dedwyddwch yn gynnwysedig, yn un peth, yn sefydlogrwydd dianwadal eu meddyliau a’u ffyrdd:— “fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.” Am yr un gwrthddrych y dywed y Salmydd mewn salm arall, fod “ei galon yn ddisigl yn ymddiried yn yr Arglwydd.” Nis gall y meddwl pryderus ac ofnus fod yn breswylfa tawelwch a thangnefedd; canys “y mae i ofn boenedigaeth.” Ac o’r tu arall, y mae hyder yn Nuw yn dwyn “tangnefedd sydd uwch law pob deall” i’r enaid:— “Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti, am ei fod yn ymddiried ynot.” Ymgysura y Salmydd yn ngofal tyner Duw am y cyfiawnion, na adawai i wialen annuwioldeb, neu drawslywodraeth estron genedl orphwys yn hir ar eu hetifeddiaeth — “rhag i’w rhai cyfiawn estyn eu dwylaw at anwiredd;” sef, rhag, os gadewid hwy yn hir dan ormes eu gelynion, iddynt golli eu hyder a’u hymddiried yn eu Duw, a myned i arfer moddion anghyfreithlawn a phechadurus i geisio ymwared; fel y dengys hanes Israel, ddarfod iddynt droseddu amryw weithiau yn y wedd hon, drwy fyned i’r Aipht neu i Assyria am gymmhorth. Achwyna yr Arglwydd trwy y prophwydi yn drwm arnynt lawer gwaith am hyn.

Terfyna y salm mewn deisyfiad am barhâd daioni Duw i’w bobl, a dinystr eu gelynion, fel y byddai iddynt fwynhau tangnefedd parhaus; felly y mae y gân fer hon yn cynnwys defnyddiau cysur cryf i eglwys Dduw yn wastadol, yn holl drallodau y byd, a rhybuddion cryfion i’w gelynion hefyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help