Salmau 79 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM LXXIX.7.6.Salm Asaph.

1O Dduw! daeth y cenhedloedd

I’th etifeddiaeth gu,

A llwyr yr halogasant

Dy deml sanctaidd di;

Caersalem lân dynasant

Hwy yn garneddau ’i lawr,

Mae ’u hadfyd a’u trueni

Fel hyn, yn wir, yn fawr.

2Rhoddasant gnawd dy weision

I adar nef yn fwyd,

Ac i fwystfilod daear

Yn ngrym eu ffyrnig nwyd;

3Eu gwaed a dywalltasant

O amgylch Salem dre;

Ac nid oedd neb a gladdai

Eu cyrph hwy yn y lle.

4Yn warthrudd mawr yr ydym

I’n cymmydogion câs;

Yn ddirmyg a gwatwargerdd,

I greulawn wŷr diras:

5Pa hyd, O Arglwydd! digi?

Ai byth? Ai llosgi wna

Tân dy eiddigedd sanctaidd

I’n herbyn? Trugarhâ.

6Dy lid ar y cenhedloedd,

O Arglwydd! tywallt di,

Y rhai ni’th adnabuant,

Ni pharchant d’ enw cu;

7Can’s hwy ysasant Iacob,

Gwnaent ei gyfannedd ef

Yn anial anrheithiedig

Yn eu cynddaredd gref.

Rhan

II.

7.6.

8Na chofia ein pechodau

Gynt yn ein herbyn mwy;

Dy dostur drugareddau,

O! brysia, dangos hwy:

Llesg iawn, yn wir, y’n gwnaethpwyd,

9O! cynnorthwya ni,

O Dduw ein hiachawdwriaeth!

Clyw ein gofidus gri.

Er mwyn gogoniant d’ enw,

Duw, gwared, trugarhâ,

A maddeu ein pechodau

Er mwyn dy enw da;

10Pam dywed y Cenhedloedd,

Pa le yn awr mae ’u Duw?

Pa ham fel hyn y cablant

Bob dydd dy enw gwiw?

O! bydded hysbys iddynt

’N awr yn ein golwg ni,

Wrth ddial gwaed dy weision,

Dywalltant hwy yn lli’;

11D’oed ger dy fron ochenaid

Y carcharorion prudd,

A dwg di blant marwolaeth

A’th ddwyfol nerth yn rhydd.

12A thâl i’n cymmydogion

Yn helaeth ar y saith,

I’w mynwes am eu trahâ,

A’u holl gableddus iaith;

Y cabledd â’r hon cablent,

O Arglwydd! d’ enw mawr;

Cau eu geneuau ’n fudion,

Darostwng hwynt i lawr.

13A ninnau ’th bobl, a defaid

Dy borfa, a’th fawrhawn;

Moliannwn di ’n dragywydd

Yn felus am dy ddawn;

Dy foliant a ddadganwn

O oes i oes, fel bo

I’r cenedlaethau ddeuant

I gadw hyn mewn co’.

Nodiadau.

Rhaid mai wedi goresgyniad a llosgiad Ierusalem a’r deml gan Nebuchodonosor y cyfansoddwyd y salm gwynfanus hon; ac ni chydwedda y disgrifiad a roddir yma o’r anrhaith ar y ddinas a’r cyssegr âg un amgylchiad arall cyn hyny: felly, nid Asaph y pencerdd yn amser Dafydd, nac Asaph y gweledydd yn amser Heseciah, oedd ei hawdwr. Un o feibion y gaethglud oedd yr Asaph hwn; ac, yn llwyr debygol, un o deulu y ddau Asaph blaenorol. Yr oedd chwe chant a deuddeg a deugain o feibion Asaph yn mysg y dychweledigion o Babilon yn amser Ezra a Nehemiah: Neh. vii. 10. Y mae dwy adnod yn y salm, sef y 5ed a’r 6ed, yr un yn un‐air ag Ier. x. 25. Ac oddi yno yn ddiau y cymmerodd yr Asaph hwn y geiriau.

Wedi cwyno yn drwm o herwydd adfyd y genedl, ac anrhaith a dinystr y ddinas a’r deml, gweddïa y Salmydd yn daer am i’r Arglwydd ymweled yn ei farn â gelynion ac anrheithwyr ei bobl, ac â hwythau yn ei drugaredd, i’w hadferu a’u cysuro. Appelia yn gyntaf am faddeuant o’u hanwireddau gynt, drwy y rhai y dygasant yr aflwydd arnynt eu hunain. Wedi hyny, am i’r Arglwydd dynu oddi arnynt ei soriant a’i anfoddlonrwydd cyfiawn, y buasent cyhyd o amser danynt, drwy eu hadferu drachefn i’w gwlad a’u rhagorfreintiau. Dadleua am y ffafrau dwyfol hyn ar gyfrif anrhydedd a gogoniant enw Duw, fel eu Duw mewn cyfammod. Ac yn y diwedd, adduneda y buasai iddynt hwy, ei bobl, foliannu Duw yn dragywydd am eu gwrandaw a’u gwaredu — y trosglwyddent goffadwriaeth o’i ras a’i ddaioni iddynt i’r holl genhedlaethau; ac felly y gwnaethant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help