1Clodforwch yr Arglwydd,
Dyrchefwch eich llef,
Chwychwi sy’n preswylio ’n
Uchelder y nef;
2Angylion, cerubiaid,
Seraphiaid, a saint —
Cydblethwch ei foliant,
Cyfrifwch hi ’n fraint.
3Chwychwi, haul a lleuad,
Sy ’n teithio uwch ben;
Chwi, sêr y goleuni,
Sy’n britho y nen;
4Chwi, ddyfroedd, sy’n nofio’r
Ffurfafen, rhowch glod,
5I enw IEHOFAH,
’Rhwn roes i chwi fod.
7Clodforwch yr Arglwydd,
O’r ddaear ynghyd;
Y dreigiau, ’r dyfnderau,
Drwy gyrau ’r holl fyd;
8Tân, cenllysg, ac eira,
Rhowch iddo ef barch,
A’r gwyntoedd ystormus
Sy’n gwneuthur ei arch.
9Mynyddoedd, a bryniau,
Y meusydd, a’r coed,
Cydgenwch ogoniant
Yr hwn oedd erioed;
10Bwystfilod, ’nifeiliaid,
Ymlusgiaid y llawr,
Rhowch glod ac anrhydedd,
I enw ’r Duw mawr.
Rhan II.11au.
11Brenhinoedd y ddaear,
A’r bobloedd ynghyd;
T’wysogion, penaethiaid,
Holl farnwyr y byd;
12Henafgwyr, a llangciau,
Gwyryfon — pob gwlad
Ac iaith dan y nefoedd,
Rhowch iddo fawrhâd.
13Moliennwch yr Arglwydd,
Efe yw ein Tad;
Ei enw sy’n deilwng
O barch a mawrhâd:
Y mae ardderchawgrwydd
Ei hanfod fawr ef,
Uwch law yr holl ddaear,
Uwch law yr holl nef.
14Efe sy’n dyrchafu
Ei bobl mewn braint;
Efe yw gogoniant.
A mawl ei holl saint —
Ei Israel ddewisol.
Chwychwi sydd yn byw
Yn llewyrch ei wyneb,
Moliennwch eich Duw.
Nodiadau.
Trefna y salmydd gyngherdd (concert) digyffelyb yn y salm hon. Casgla ynghyd holl gôrau angylaidd nef y nef: a holl gôrau y ganol‐nef — haul a lleuad, a’r holl sêr goleuni: a holl gôrau yr isaf‐nef — gwyntoedd, tân, cenllysg, eira: a holl gôrau y ddaear — mynyddoedd, bryniau, meusydd, coed, bwystfilod, ac ymlusgiaid: a holl gôrau a graddau dynoliaeth — brenhinoedd, tywysogion, penaethiaid, barnwyr yr holl bobl, henafgwyr, llangciau, a gwyryfon, i gydymuno i lenwi yr holl fydysawd â moliant Duw. Cyn i bechod a gwrthryfel dori ar gydgord y beroriaeth, yr oedd holl weithredoedd a holl greaduriaid Duw yn ei gydglodfori âg un dôn; ac felly y byddant etto, pan ddêl “amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd brophwydi erioed.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.