1Moeswch fawl i’r Arglwydd: canaf
Iddo o’m calon glod, mae’n fraint,
Yn nghymmanfa y rhai uniawn,
Yn nghyn’lleidfa fawr ei saint:
2Mawr a rhyfedd,
Yw ei holl weithredoedd ef.
Pawb a’u hoffant sy’n eu ceisio,
3Gogoneddus ŷnt i gyd;
Pery byth heb ddiwedd arno
Ei gyfiawnder ef o hyd.
4Mawr a rhyfedd,
Graslawn a thrugarog yw.
5Rhoddodd ymborth i ddiwallu
Y rhai oll a’i hofnant ef;
Cofia byth ei hen gyfammod,
Wnaeth cyn seilio dae’r a nef.
Ef i’w eiddo
A gyflawna ’n llwyr ei air.
6Mawr gadernid ei weithredoedd,
I ei bobl yn hysbys wnai;
Rhoddodd iddynt etifeddiaeth
Y cenhedloedd i’w mwynhau.
Hwythau drigant
Yno, a moliannant ef.
7Barn, gwirionedd, ac unionder
Yw gweithredoedd ei ddwy law;
A’i orch’mynion oll ynt sicr —
8Byth yr un ni chilia draw.
Mewn gwirionedd
A chyfiawnder hwy sicrheir.
9Anfon wnaeth i’w bobl ymwared;
Seiliodd ei gyfammod rhad,
Yn drag’wyddol; tra ofnadwy —
Sanctaidd yw ei enw mâd.
Sanctaidd,
Sanctaidd, ac ofnadwy yw efe.
10Dechreu cyntaf gwir ddoethineb
Ydyw ofn yr Arglwydd nef,
Deall da sydd gan y rheiny
Gadwant ei orch’mynion ef.
Mae ei foliant
Yn dragwyddol yn parhau.
Nodiadau.
Dafydd, fe dybir, oedd awdwr y salm hon; ac y mae hi, a’r un nesaf, yn ddwy o’r deuddeg caniadau cywrain yr Ysgrythyr sydd yn dechreu pob llinell gyda llythyren o’r egwyddor Hebreig, ac yn dilyn yn rheolaidd felly hyd y diwedd; ond y mae hon a’r salm nesaf, a’r drydedd bennod yn Llyfr Galarnad Ieremiah, yn gaethach na hyny etto — yr un llythyren yn dechreu pob llinell yn mhob pennill. Yr oedd yr hen feirdd Cymreig, yn nyddiau Harri’r Wythfed ac Elizabeth, yn hoff iawn o ganu mewn cadwynau o’r fath yma; ac y mae yn rhyfedd iddynt allu cyflawni y fath orchestion ar ganu ynddynt ag a wnaethant.
Cân o fawl yw y salm, lle y mae y Salmydd, megys y gwnaethai lawer gwaith o’r blaen, yn galw ar ereill i uno âg ef yn y gwaith o glodfori Duw, ar gyfrif mawredd ei weithredoedd, mawredd ei drugaredd, a’i raslonrwydd; mawredd ei gyfiawnder a’i uniondeb fel Llywydd a Barnydd pawb; sicrwydd ei dystiolaethau a’i orchymynion, a chadernid ei gyfammod, & c.; ac mai “dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.