Salmau 94 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM XCIV.8.7.3.

1O Dduw ’r dial! ymddisgleiria:

2Cyfod, Farnwr mawr y byd,

Tâl i’r beilchion wobr eu trahâ,

3Pa’m yr oedi di gyhyd?

Dyro glwy iddynt hwy,

Fel na orfoleddont mwy.

4Dros ba hyd y cânt lefaru

Geiriau celyd a sarhaus?

Ymfawrygu mae gweithredwyr

Anwireddau yn barhaus:

5Dryllio ’th saint, Arglwydd maent,

Yn eu llid, fel ysol haint.

6Y weddw wan a’r ddyeithr laddant,

’R amddifad nid arbedant chwaith;

7D’wedant hwy, Ni wêl yr Arglwydd —

Nid ystyria Duw ein gwaith.

8Ystyriwch chwi, wŷr di‐fri,

Ac attebwch hyn i ni —

9Oni chlyw yr hwn a blana ’r

Glust i glywed yn y pen?

Oni wêl ’r hwn luniai lygad

Dyn i wel’d goleuni ’r nen?

10Ef a ddyd, yn ei bryd,

Farn a chosp ar bobloedd byd.

11Gŵyr yr Arglwydd holl feddyliau

Dyn — mai gwagedd ynt, a gau;

12Gwyn ei fyd yr hwn geryddi

Di, i’w ddysgu i’w wellhau:

13Llonydd da, a fwynhâ,

Ond yr annuw i’r ffos yr ä.

14Canys Duw ni âd ei bobl,

Ac ni wrthyd ef ei saint;

15Barn a ddychwel at gyfiawnder,

Etifeddant hwythau ’r fraint.

Dilyn Duw, rhodio a byw,

Wnant yn ol ei ddeddfau gwiw.

Rhan

II.

8.7.3.

16Gyda mi pwy gwyd yn erbyn

Gwŷr drygionus, anwir lu?

Pwy saif gyda mi i wrth’nebu

Gweithwyr brwnt anwiredd du?

17-18Duw fu’n blaid im’ wrth raid,

Neu syrthiaswn yn y llaid.

20A fydd i ti gydymdeithas

A gorseddfaingc fawr y fall?

’R hon a lunia yn lle cyfraith

Anwireddau yn ddiball?

21Do’nt yn un a chyttûn,

I ddyfetha ’r gwirion ddyn.

22Ond yr Arglwydd sydd yn noddfa

I mi — ef a’m ceidw ’n fyw;

Yn mhob adfyd a chyfyngder,

Craig fy nodded yw fy Nuw.

23Tỳr o’r byd, yn ei lid,

Y drygionus oll i gyd.

Nodiadau.

Yn nghyfrif Dafydd y rhoddir y salm hon etto gan y nifer mwyaf o esbonwyr. Os efe oedd ei hawdwr, rhaid ddarfod iddo ei chyfansoddi cyn ei ddyrchafiad i’r orsedd, pan yr oedd efe yn cael ei erlid gan Saul a gwŷr ei lys, a llawer o rai diniwed ereill yn dioddef gorthrymder oddi wrth farnwyr anghyfiawn a chreulawn o’r fath a ddisgrifir, ac y traethir barn yn eu herbyn yn y salm; ac y gweddïir hefyd am i Farnydd Goruchaf yr holl ddaear brysuro i waredu ei bobl orthrymedig o’u dwylaw gwaedlyd, a gwneyd barn arnynt hwythau eu gorthrymwyr. Ceir ynddi hefyd rai appeliadau pwyntiog iawn at reswm a chydwybod y barnwyr traws (adn. 8, 9, 10), a chysuron melusion i’r trueiniaid gorthrymedig (adn. 14, 15).

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help