1Gwaith da a hyfryd yw
Moliannu ’r Arglwydd,
A chanu mawl i Dduw,
’N Goruchaf Lywydd;
2Mynegu foreu glas
Am ei drugaredd fras,
A gwirioneddau ’i ras,
Bob nos yn hylwydd.
3I’th enw di, y Sant,
Y llafar ganaf;
Ar nabl ac ar dant
Mi a’th glodforaf:
4Can’s llawenychaist fi
A’th weithred, Arglwydd cu,
Yn ngwaith dy ddwylaw ’n hy’
Y gorfoleddaf.
5Mawredig yw dy waith,
O Dduw! a rhyfedd:
Dwfn yw ’th feddyliau maith,
Yn fôr diddiwedd:
6Yr annoeth ni ŵyr hyn,
A’r ynfyd chwaith ni fỳn
Eu deall, ac ni chryn
Ger bron dy fawredd.
Rhan II.6.5.
7’R annuwiol dros fyr dro
Flodeua ’n siriol,
A’r anwir, gwelir o
Fel gardd lysieuol:
Eu llwyddiant yn y man
A dry yn ddinystr pan
Y syrthiant hwy o dan
Eu gwarth tragwyddol.
8Tithau, O Arglwydd Dduw!
Wyt ddyrchafedig;
Byth bydd dy enw gwiw
Yn fendigedig:
9D’ elynion, Arglwydd mawr,
Er gwyched fyddo ’u gwawr,
A dỳnir oll i lawr
I warth a dirmyg.
10Dyrchefi fy nghorn i
Mewn ardderchawgrwydd,
Ac uchel fydd ei fri
Drwy ’th garedigrwydd;
Ag olew tyner ir
Eneinir fi yn wir,
Ac felly pery ’n hir
Fy mawreddigrwydd.
11Fy llygaid hefyd wêl,
Yn ddiogel ddigon,
Fy ngwynfyd yn ddigêl,
Ar fy ngelynion:
A chlywed hefyd ga’
Fy nghlust y newydd da,
Am ddistryw a thrahâ
Fy holl gaseion.
Rhan III.6.5.
12Fel y balmwydden fe
Flodeua ’r cyfion;
Megys cedrwydden gre’,
Cynnydda ’n gysson;
13Rhai blanwyd yn nhỳ Dduw,
A fyddant goedydd byw;
Dan flodeu hardd eu lliw
’Nghynteddau Seion.
14Hwynthwy mewn henaint llawn
A ffrwythant etto,
Yn dirf ac iraidd iawn,
Heb un yn crino:
15Mynegant oll yn wiw
Mai uniawn ydyw Duw,
Eu Craig — nad oes un rhyw
Anwiredd ynddo.
Nodiadau.
Priodolai amryw o’r hen rabbiniaid Iuddewig awduriaeth y salm hon i Adda newydd ei greu, ac iddo ef ac Efa ei chanu ar foreu eu Sabbath cyntaf. Y mae yn syndod i dybiaeth mor annaturiol ac ynfyd godi yn mhen un Iuddew na Groegwr erioed. Nid oedd yr un offeryn cerdd a grybwyllir yn y salm, nac un math arall chwaith, wedi ei ddyfeisio yn Eden. Gwnaed yr un cyntaf erioed gan Tubal Cain, ŵyr i Adda; ac yn sicr nid oedd neb o’r rhai drygionus ac annuwiol y sonir am danynt yma yn bod cyn i Adda bechu, ac i’r cyntaf o blant gwragedd gael ei eni i’r byd. Golygai amryw mai Moses a’i cyfansoddodd at wasanaeth addoliad y cyssegr ar y dydd Sabbath yn yr anialwch. Ond nid oedd caniadaeth yn sefydliad perthynol i’r cyssegr yn ei amser ef: beth bynag, ni ddygwyd offerynau cerdd i’r cyssegr hyd amser Dafydd. Ac nid yw yn beth tebygol chwaith y buasai Moses yn son am gedrwydd Libanus, fel y gwneir yma, gan na welsai efe, na neb arall yn Israel y pryd hwnw, Libanus na’i gedrwydd erioed. Y mae tebygoliaeth cryf iawn yn y salm drwyddi mai Dafydd oedd ei hawdwr.
Yma, fel mewn llawer o’r salmau, y mae efe yn cymmhell y ddyledswydd o glodfori a chanu mawl i Dduw — yn un peth, am fod y gwaith yn dda ac yn hyfryd. Dywed hyn oddi ar ei brofiad ef ei hun o’r gwaith; a gwaith penaf a hyfrydaf ei fywyd oedd canu mawl ei Dduw, fel y tystia lawer gwaith. Nid oes neb a all annog ereill at y gwaith o addoli a moliannu Duw mor effeithiol a’r hwn sydd yn brofiadol o ddaioni a hyfrydwch y gorchwyl drwy ei ymarferiad personol âg ef. Cymmhella hyn fel dyledswydd i’w hymarfer yn feunyddiol: nid ar y Sabbath yn unig, ond y boreu — pob boreu; ac nid y boreu yn unig chwaith, ond yr hwyr — pob hwyr hefyd. Canys y mae ei drugaredd a’i wirionedd ef — tesynau ein mawl a’n cân — yn ymweled â ni bob boreu, ac yn ein dilyn hyd yr hwyr; ac yn amgylchynu ein gorweddfa bob nos. Ni chyfodasom un boreu erioed nad oedd ein rhwymedigaethau i foliannu yr Arglwydd wedi amlhau yn ddirfawr; ac nid aethom i’n gwelyau un hwyr erioed chwaith nad oedd yr un rhwymedigaethau wedi lliosogi yn aneirif drwy drugareddau, cysuron, a gwaredigaethau y dydd.
Molianna y Salmydd yr Arglwydd, a chymmhella ereill i’w foliannu hefyd, yn yr olwg ar fawredd ei weithredoedd mewn creadigaeth a rhagluniaeth; ac achwyna ar yr ynfyd a’r annoeth, eu bod heb weled, gwybod, a deall hyn; a’u bod hwy, yn lle moliannu Duw, yn ei gasau, a’i wadu; a rhagfynega eu trueni a’u llwyr ddinystr o blegid hyny, er y gallant ymddangos am dymmor yn llwyddiannus a dedwydd: ac o’r tu arall, y byddai i’r cyfiawnion a garant dŷ a gwaith tŷ eu Duw wreiddio, tyfu, blodeuo, a ffrwytho yn ei gynteddau ef hyd henaint a hyd byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.