1Molwch yr Arglwydd, da yw ef,
Iôr Anfeidrol;
Pery ei drugaredd gref
Yn dragwyddol;
2Rhai waredodd ef o’i ras
O law ’r gelyn,
Molant ef â newydd flas
Ar y delyn.
3’Rhai a gasglodd ef ynghyd
O’r holl diroedd,
Wasgaresid drwy y byd
O’u hardaloedd;
Gogledd, de, a dwyrain bell,
A’r gorllewin:—
Dygodd hwynt i gyflwr gwell,
I’w cynnefin.
4Crwydrent mewn anialwch gwael,
Heb ffordd ynddo;
Nid oedd dinas yno i’w chael
Iddynt drigo:
5Newyn tost, a syched crin
A’u dihoenent,
A’u heneidiau hwythau ’n flin,
A lewygent.
6Yna llefent ar Dduw nef
Mewn cyfyngder,
A gwrandawai yntau ’u llef
O’r uchelder;
7O’u trallodau dug efe
Hwynt yn rhyddion —
T’wysodd hwy i ddinas gre’,
’Rhyd ffordd union.
8O! na unent hwythau ’nghyd
I’w glodfori,
Gan goffau ei ras o hyd,
A’i ddaioni:
Am ei ryfeddodau i
Feibion dynion,
Rhodder iddo ’r mawl a’r bri
Gan bob calon.
Rhan II.7.4.
9’R enaid gwyw, sychedig, gwael,
A ddiwalla;
I’r newynog ef yn hael
A rydd fara:
10Ond y rhai breswyliant yn
Nghysgod angau,
Mewn tywyllwch, ac yn dyn
Eu cadwynau,
11Am gwrthodent ufuddhau
Gair Iehofa’,
A dirmygu cynghor clau
Y Gorucha’:
12Yntau a ostyngai ’u nerth
Hwy â blinder,
Syrthient ar lithrigfa serth,
Na b’o adfer.
13Yna ar yr Arglwydd nef,
Mewn cyfyngder,
Y llefasant, clybu ’u llef,
Yn eu pryder;
Ac o’u gorthrymderau prudd
Fe ’u gwaredodd,
14O nos cysgod angeu ’n rhydd
Ef a’u dygodd.
16Can’s y cedyrn byrth o bres
Ef a’u torodd,
Barau heiyrn cryfion, res,
Do, a ddrylliodd;
17Ffyliaid am eu camwedd mawr
A gystuddir,
Am eu hanwireddau i lawr
Hwy ostyngir.
18Eu henaid a gasäai bob bwyd,
I byrth angau,
Dygwyd hwy a’u gwedd yn llwyd
Trist eu gruddiau;
19Yna ar yr Arglwydd nef,
Mewn cyfyngder,
Gwaeddent, a gwaredai ef
Hwy o’u pryder.
20Anfon gair ei enau wnaeth,
Hwy iachawyd;
Ac yn rhydd o’u cystudd caeth
Hwy a ddygwyd;
21O! na unent hwythau ’nghyd,
O un galon,
I foliannu ’i ras o hyd
I blant dynion.
Rhan III.7.4.
22Aberth moliant ddygant mwy
I’w Gwaredydd,
A’i weithredoedd draethant hwy,
Mewn llawenydd;
23Rhai mewn llongau änt yn rhwydd
Ar yr eigion,
I gyflawni gwaith eu swydd,
Mewn deifr dyfnion.
24Gwelant hwy weithredoedd Iôr,
A’i rymusder,
Rhyfeddodau mawr ein Pôr,
Yn y dyfnder;
25Ar ei air y dymmestl gref
Ruthra allan,
Tonau ’r eigion hyd y nef
Ymddyrchafan’.
26Esgyn wnant ar donau certh
I’r uchelder,
Disgyn wedi hyny ’n serth
’Lawr i’r dyfnder;
27Megys meddwyn gwnant ymdroi
Rhwng y tonau;
A’u doethineb wedi ffoi,
Pallant hwythau.
28Yna gwaeddant hwy ar Dduw,
Mewn cyfyngder;
Yntau wna eu dwyn yn fyw
O’u gorthrymder.
29-30Gwna ’r ystorm a’r tonau ’n fud —
Llawenychant;
Ac fe ’u dwg i’r porthladd clyd
A ddymunant.
31O! na folent ein Duw Rhi
O un galon,
Am ei ryfeddodau i
Feibion dynion;
32Yn nghyn’lleidfa ’r bobl ynghyd,
Ef ddyrchafant,
Yn eisteddfod barnwyr byd,
Y’i moliannant.
Rhan IV.8.7.4.
33Gwna afonydd yn ddiffaethwch,
A ffynnonau ’n sychdir cras;
34Gwna yn ddiffrwyth a gwywedig
Dir oedd gynt yn ffrwythlawn fras;
Am ddrygioni, & c.,
’R rhai a drigant ynddo ef.
35Ef a dry ’r anialwch eilwaith
Yn llyn dwr, a’r crasdir wna
Yn ffynnonau dyfroedd iachus —
Gwedd yr anial lawenhâ:
36A’r newynog, & c.,
A gaiff yno gartref llawn.
Hwy ddarparant yno ddinas,
37Hauant feusydd, planant goed,
Gwinwydd teg lle na phlanesid
Gwinwydd yno o’r blaen erioed:
Y rhai ddygant, & c.,
Ffrwyth toreithiog yn ei bryd.
38Felly gwna ef eu bendithio,
Hwy yn ddirfawr amlhânt;
Ac eu hanifeiliaid hefyd,
Yn eu nifer, ni leihânt:
39Etto, eilwaith, & c.,
Hwy gan ddrygfyd a leiheir.
Hwy ostyngir gan gyfyngder,
Cyni, a drygfyd, hyd y llawr;
40Rhydd ef ddirmyg ar foneddion,
Crwydrant mewn anialwch mawr:
Yno, druain! & c.,
Heb un ffordd y crwydrant hwy.
41Ond fe gŵyd y tlawd o gystudd,
Iddo gwna deuluoedd llawn;
42Y rhai uniawn welant hyny,
Byddant hwy yn llawen iawn:
Pob anwiredd, & c.,
Rhaid fydd iddo gau ei safn.
43Felly ’r neb sy’ ddoeth a geidw
Hyn — deallant hwy ’n ddïau,
Ras â thrugareddau ’r Arglwydd
Yn ei holl weithredoedd clau:
A moliannu, & c.,
Byth ei enw mawr a wnant.
Nodiadau.
Yma y dechreua y pummed llyfr, a’r olaf, yn cynnwys tair a deugain o salmau — salmau clodforedd gan mwyaf. Cân felus ydyw hon ar oruchwyliaethau cyffredinol a neillduol Duw yn ei ragluniaeth tuag at blant dynion yn mhob sefyllfa ac amgylchiad — teithwyr, morwyr, caethion, cleifion, amaethwyr:— yn eu dwyn i drallodau a chyfyngderau, yn eu gwrandaw pan lefant arno, ac yn eu gwaredu o’u cyfyngderau — yn eu bendithio, a’u llwyddo, & c. Ar ddiwedd y traethiad ar bob dosbarth, cwynir na byddai i’r rhai a waredir felly o gyfyngderau yn cydnabod ac yn moliannu y Gwaredwr, am ryfeddodau ei ddaioni iddynt. Fe lefa dynion yn aml yn eu cyfyngder, pan fyddo galed arnynt; ond anaml y clywir hwy yn diolch ar ol cael eu dwyn allan o hono. Yn y fan yr anghofiant ei ryfeddodau ef. “Ond y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau’r Arglwydd,” medd y Salmydd; hwy a gofiant, a ystyriant, ac a deimlant eu rhwymedigaethau, fel y mae goruchwyliaethau’r Arglwydd tuag atynt, mewn ceryddon, gwaredigaethau, a thrugareddau, yn cael eu priodol effaith arnynt.
Y mae trugareddau’r Arglwydd, yn yr adnod olaf, yn golygu yr holl oruchwyliaethau dwyfol tuag at blant dynion y cenir am danynt yn y salm — yn gystuddiau, peryglon, adfyd, a chyfyngderau; yn gystal a’r gwaredigaethau, a’r hawddfyd, a’r llwyddiant; am mai amcan grasol a thrugarog sydd gan Dduw yn dwyn plant dynion i’r trallodion, yn gystal ag yn eu gwaredu allan o honynt. “Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion;” Galar. iii. 33. “Hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn, i ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw;” Iob xxxiii. 29, 30. Y mae y doeth yn cadw, ac yn deall hyn am oruchwyliaethau yr Arglwydd, medd y Salmydd. Felly yr oedd efe ei hun, pan y dywed, “Cyn fy nghystuddio, yr oeddwn yn cyfeiliorni;” ond yn awr, “Cedwais dy air di.” A thrachefn: “Da yw i mi fy nghystuddio, fel y dysgwn dy ddeddfau;” Salm cxix. 67, 71. Bu ei gystuddiau a’i drallodion y trugareddau a’r bendithion o’r fath werthfawrocaf i lawer enaid; ond y mae yn rhaid eu deall fel yn dyfod oddi wrth Dduw fel cenhadau ei drugaredd atom cyn y gallwn ni dderbyn y lleshâd oddi wrthynt. Yn gyffelyb y dywed yr apostol, yn Heb. xii. 5-11.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.