1Fy enaid, deffro, cyfod,
Bendithia ’r Arglwydd nef;
A’r cwbl oll sydd ynof,
Ei enw sanctaidd ef.
2Bendithia ’r Arglwydd, f’ enaid;
Ac nac anghofia di
Ei drugareddau mawrion
A’i ddoniau maith diri’.
3Yr hwn y sydd yn maddeu
Dy anwireddau câs,
Ac yn iachau dy lesgedd
I gyd o’i ryfedd ras;
4Yr hwn sydd yn gwaredu
Dy oes o ddistryw ’r bedd;
Yr hwn sy’n dy goroni
’N drugarog iawn â’i hedd.
5Yr hwn sydd yn diwallu
Dy enau â phob da;
A’th ie’ngctid fel yr eryr
Ei adnewyddu wna.
6Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur
Barn a chyfiawnder gwir
I’r holl rai gorthrymedig,
Galarus yn y tir.
Rhan II.7.6.
7Hysbysai ’i ffyrdd i Moses,
Dangosai ’i ryfedd waith
I lwythau meibion Israel
Gynt, yn yr anial maith:
8Trugarog yw, a graslawn,
Hwyrfrydig iawn i lid,
A mawr ei drugarawgrwydd,
Oedd ef — mae ’r un o hyd.
9Nid byth yr ymrysona;
Ni cheidw ’i ddig yn hir;
10Can’s nid ’n ol ein pechodau
Y gwnaeth â ni, yn wir:
Yn ol ein hanwireddau
Ni thalodd i ni chwaith,
Ein harbed wnaeth yn dirion
Er ein gwrthryfel maith.
11Can’s cyfuwch ag yw ’r nefoedd
Uwch law y ddaear gref,
Rhagorodd ei drugaredd
Ar bawb a’i hofnant ef;
12Cyn belled ag yw ’r dwyrain
Oddi wrth y ’llewin hwyr
Pellhaodd e’n camweddau
Oddi wrthym ni yn llwyr.
13Fel wrth ei blant tosturia
Tad, pan y clywo ’u llef,
Felly tosturia ’r Arglwydd
Wrth bawb a’i hofnant ef;
14Can’s edwyn ef ein defnydd,
Nad y’m ond llwch di‐fri,
A chofia hyny ’n wastad
Pan yr ymwêl â ni.
Rhan III.7.6.
15Holl ddyddiau dyn nid ydynt
Ond fel glaswelltyn gwan;
Fel maes‐flodeuyn tyfa,
A gwywa yn y man;
16Can’s awel wynt ä trosto,
Diflana yntau ’n wyw,
A’i le nid edwyn mo’no
Byth mwy yn nhir y byw.
17Ond trugareddau ’r Arglwydd
Sy’ o dragwyddoldeb draw,
I oesau annherfynol
Y tragwyddoldeb ddaw;
Ac ar y rhai a’i hofnant
Gorphwysant i barhau,
A phlant eu plant hwy hefyd
A gant eu llawn fwynhau:
18Sef hwy, y sawl a gadwant
Ei dystiolaethau ef,
A gofiant ei orch’mynion,
Gan wneuthur barnau ’r nef.
19Ei orsedd yn y nefoedd
Osododd Duw ’n ddifêth,
A than ei ddoeth lywodraeth
O hyd y mae pob peth.
20Bendithiwch chwi yr Arglwydd,
Angylion cedyrn fry,
Sy’n gwneyd ei air, gan wrandaw
Ar ei leferydd cu.
21Bendithiwch e’, ’i holl luoedd,
Sydd yn a than y nef;
Ei weision oll sy’n gwneuthur
Ei lân ewyllys ef.
22Bendithiwch chwi Iehofah,
Ei holl weithredoedd mawr,
Yn mhob man o’i lywodraeth,
Drwy nef a daear lawr:
Fy enaid, d’wedaf etto,
Bendithia di dy Dduw:
Pe tawai pawb, na thawa
Di byth tra byddech byw.
Nodiadau.
Dafydd, medd ei theitl, oedd awdwr y salm hon. Tybiai rhai ddarfod iddo ei chyfansoddi pan yr aeth efe i dŷ’r Arglwydd i addoli, ar ol bod o hono yn ymprydio ac yn ymgystuddio am saith niwrnod dros y plentyn a ddygasai gwraig Urias iddo: 2 Sam xii. 15-20.
Dechreua gyda’i enaid ei hun, gan ei alw a’i gyffroi unwaith ac eilwaith i fendithio yr Arglwydd â’i holl alluoedd a’i egnïon, am ei holl ddoniau iddo:— yn gyntaf, ac yn benaf, doniau ei ras a’i iachawdwriaeth, yn maddeu ei holl anwireddau, ac yn iachau ei holl lesgedd a’i afiechyd ysbrydol, & c.; ac yna doniau ei ragluniaeth mewn bendithion tymmorol, a’i diriondeb grasol i rai gorthrymedig — am y dadguddiad a roddasai o hono ei hun fel Duw trugarog a graslawn i Moses (Exod. xxxiv. 6, 7), a’r arwyddion a’r rhyfeddodau a wnaethai efe i feibion Israel. Yna, rhydd olwg gyferbyniol ar freuder a byrder oes dyn a thrugaredd dragwyddol a dianwadal Duw; ac wedi hyny geilw ar holl awdurdodau a nerthoedd y nefoedd, holl angylion a gweision Duw, a’i weithredoedd yn mhob man o’i lywodraeth, i fendithio’r Arglwydd; a dybena lle y dechreuasai, gyda’i enaid ei hun. Gallem alw hon yn salm etholedig. Nid oes un a ddarllenir mor fynych a hi yn ein haddoliadau teuluaidd a chyhoeddus. Y mae pob clust yn gydnabyddus â’i hacenion hi, ac y maent bob amser yn felus iawn i bob un y mae dim o’i hysbryd hi ynddo.
Yr oedd Dafydd, fel y gwelir yn ei salmau, yn dyweyd llawer iawn wrth Dduw dros ei enaid, a llawer iawn wrth ei enaid dros Dduw. Y mae ei ddeisyfiadau ar Dduw dros ei enaid yn frithion drwy y llyfr:— “Achub fy enaid;” “Gwared fy enaid;” “Cadw fy enaid;” “Dyrchafa fy enaid o’r ffos;” “Dwg fy enaid o garchar;” “Llawenhâ enaid dy was;” “Na âd fy enaid yn ddiymgeledd,” & c. Llefara wrth ei enaid dros Dduw, i’w annog i obeithio ac ymddiried, i ymlawenhau ac ymhyfrydu ynddo, & c., ac, fel y gwna yn y salm hon, i addoli, a bendithio ei enw. Och! gynnifer o eneidiau y sydd na ddywed eu perchenogion air byth drostynt wrth Dduw mewn gweddi, na gair byth wrthynt hwythau dros Dduw, i’w cymmhell i’w addoli a’i foliannu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.