Salmau 4 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM IV.8.8.8.I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.

1Pan alwyf arnat, gwrando fi,

Duw fy nghyfiawnder ydwyt ti,

Clyw ngweddi etto, trugarha;

Pan fyddwn mewn cyfyngder llaith

Ehengaist arnaf lawer gwaith,

Saf di o’m plaid — pob peth yn dda.

2O! feibion dynion, beilchion byd,

Pa ham y trowch o hyd o hyd

Fy nghrefydd a’m gweddïau’n wawd?

Pa hyd yr hoffwch wegi? Pa’m

’R argeisiwch gelwydd, twyll, a cham,

Gan wledda ar oferedd tlawd?

3Gwybyddwch hyn — i’r Arglwydd cun

Neillduo’r duwiol iddo’i hun:

Pan alwyf arno, gwrendy’m llef;

4Ewch i’ch gwelyau, a distewch,

Ar lais cydwybod clust wrandewch,

Rhag syrthio arnoch ŵg y nef.

5Offrymwch ebyrth mawl i Dduw,

Gobeithiwch yn ei enw gwiw,

O hyny daw lleshâd i ddyn:

6Pwy, medd llaweroedd, ddengys p’le

Y ceir daioni dan y ne’?

Yn llewyrch wyneb Duw ei hun.

7Rho’ist yn fy nghalon, Arglwydd, gwn,

Gyflawnder o’r llawenydd hwn —

Llawenydd a barhâ’n ddilyth;

Pan ballo ŷd, a gwin, a gwawd,

A holl ddigrifwch plant y cnawd,

Bydd cyflawn fy llawenydd byth.

8O dan dy aden gorwedd gaf,

Ac yn dy heddwch huno wnaf,

Heb ofn na blinder i’m llesghau:

Can’s ti, O Arglwydd! beri ’mi

Gael gorphwys yn dy heddwch di,

Mewn diogelwch i barhau.

Nodiadau.

Tybiwn mai yn ystod tymmor ei drigias yn llys Saul y cyfansoddodd Dafydd y salm hon, lle yr oedd efe dan fath o erledigaeth, o herwydd ei ddefosiwn crefyddol, oddi wrth dywysogion annuwiol y llys hwnw.

Y mae efe yma, yn gyntaf, yn tywallt ei weddi ger bron Duw, ar gael o hono ei gynnal a’i nerthu yn wyneb dirmyg gelynion Duw a chrefydd. Yn ail, yn ceryddu ei elynion hyny am eu hanystyriaeth a’u rhyfyg; yn eu cynghori i holi a gwrandaw ar lais eu cydwybodau eu hunain, ac i ddychwelyd at Dduw, ac ymroddi i’w wasanaeth. Yn olaf, y mae efe yn dal cymmundeb â’i galon ei hun, ac â’i Dduw; yn adrodd ei brofiad cysurus oddi ar fwynhâd dedwydd o heddwch Duw, a thystiolaeth ei gydwybod ei hun.

Dengys ei weddi fer ar ddechreu y salm, yn 1. Pa mor bryderus yr oedd y gweddïwr mawr hwn am wrandawiad ei weddi. 2. Y dadleuon a ddefnyddiai am fod iddo gael ei wrandaw felly. Sef, yn 1af, Yr hyn oedd Duw iddo:— “Duw fy nghyfiawnder.” Yn 2il, Yr hyn a wnaethai Duw erddo eisoes:— “Mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf.” Yn ei gerydd a’i gynghor i’w elynion, dengys iddynt eu hynfydrwydd yn eu gwaith yn ymofyn dedwyddwch mewn pleserau cnawdol, elfenau trueni a dinystr, ac yn dirmygu gweddi a gwasanaeth Duw, unig ffynnonell gwir a sylweddol ddedwyddwch, gan eu cymmhell i wneyd prawf o grefydd drostynt eu hunain, cyn ei barnu a’i diystyru; a chadarnhâ ei gynghor iddynt â thystiolaeth ei brofiad ei hun.

Y mae y salm yn enghraifft o lawer mewn ychydig; geiriau doethion, y rhai sydd megys symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynnulleidfa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help