1-2Molwch yr Arglwydd. Mola di,
Fy enaid — traetha ’i glod,
Heb beidio byth, heb dewi mwy,
Tra’n berchen byw, a bod.
3Na roddwch bwys eich hyder byth
Ar dywysogion byd,
Nac ar fab dyn — nid yw ond gau,
Anwadal frau ei fryd.
4Ei anadl allan ä, a llwch
Y ddaear fydd ei le;
A dyna’r dydd y derfydd am
Ei holl amcanion e’.
5Gwyn fyd y dyn yr hwn y mae
Duw Iago iddo ’n dŵr;
Ei obaith yn yr Arglwydd sydd —
Diogel fydd y gŵr.
6Yr hwn a wnaeth y nef a’r llawr,
Y moroedd mawr, ac oll
Sydd ynddynt hwy, fe geidw o hyd
Ei wir i gyd heb goll.
Rhan II.M. C.
7I’r gorthrymedig y gwna farn,
Portha ’r newynog prudd:
A’r carcharorion blin eu byd,
A esyd ef yn rhydd.
8Fe egyr lygaid deillion gwael
I wel’d goleuni ’r wawr,
A chwyd y rhai ostyngwyd i
Drueni llwch y llawr.
Yr Arglwydd hoffa’r cyfiawn rai,
9Dyeithriaid geidw ef;
’R amddifad trist, a’r weddw wan,
Ddeil â’i ddeheulaw gref.
Ond ffordd yr annuwiolion oll
A ddadymchwela efe,
A’u coffadwriaeth a ddileir
Yn llwyr o dan y ne’.
10Yr Arglwydd a deyrnasa byth,
Dy Dduw di, Seion, yw:
O oes i oes, heb drangc na phall,
Molwch yr Arglwydd Dduw.
Nodiadau.
Y mae dosbarth newydd, a’r dosbarth olaf o’r Salmau, yn dechreu yn y salm hon. Gelwir salmau y dosbarth hwn ‘yr Haleluiau,’ am fod pob un yn dechreu ac yn diweddu gyda’r gair Haleluia; hyny yw, Molwch yr Arglwydd. Tybir iddynt gael eu cyfansoddi ar ol y dychweliad o Babilon. Cynnwysa y salm hon, heb law mawl, addysg ac athrawiaeth dda. Dengys ofered yw ymddiried mewn dyn, beth bynag fyddo ei sefyllfa, am nad oes iachawdwriaeth ynddo, ac o herwydd ei fod yn gyfnewidiol a marwol; a dedwyddwch yr hwn sydd yn ymddiried yn yr Arglwydd, Creawdwr nefoedd a daear, yn yr hwn y mae cadernid tragwyddol, ac sydd “yn cadw gwirionedd yn dragywydd,” yn anghyfnewidiol ffyddlawn i’w air a’i addewid. Gellid cymmhwyso yr wythfed adnod at y Messiah, fel rhagfynegiad am dano, yn briodol iawn; canys cyflawnwyd ei geiriau i’r llythyren ganddo ef. Y mae rhan o’r etifeddiaeth fras sydd yn yr Ysgrythyr i’r amddifad a’r weddw hefyd yn niwedd y salm.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.