1O Arglwydd! ni chwyddodd fy nghalon,
Ni chodais fy llygaid i’r lan,
At bethau rhy fawr a rhy uchel,
I’w dirnad i’m deall sydd wan;
2Gosodais, gostyngais fy enaid
Fel plentyn ddiddyfnwyd o’r fron —
Fel plentyn ddiddyfnwyd mae f’enaid
Yn teimlo ei hun yr awr hon.
3Disgwylied tŷ Israel yn wastad,
Mewn hyder, yn ddyfal wrth Dduw,
Yn awr, a hyd byth yn dragywydd,
O herwydd trugarog iawn yw;
Fe ddyry bob bendith berthynol,
I’r bywyd presennol o’i law,
Ac hefyd bob bendith ysbrydol
Berthynol i’r bywyd a ddaw.
Nodiadau.
Yma cawn Dafydd dan ei enw fel awdwr y salm fer hon; yn yr hon y mae efe yn appelio at Dduw yn erbyn cyhuddiadau ei elynion, y rhai a haerent ei fod yn cynllunio bradwriaeth yn erbyn gorsedd Saul, y mae yn debygol, gyda’r amcan o’i wneyd ei hun yn frenin. Hòna ef ei fod mor ddiniwed a phlentyn bach yn yr hyn y cyhuddid ef; ac appelia at Dduw — chwiliwr y calonau — fel ei dyst, na osodasai efe ei olygon ar bethau uchel felly, ac na cheisiasai erioed ymyraeth âg achosion y llywodraeth; a’i fod yn ymddiried ei hun, ei farn, a’i fater yn hollol yn llaw Duw, fel y mae plentyn bach yn dibynu ar ei fam; a chynghora y ffyddloniaid yn Israel i wneyd yr un peth. Cysur penaf enaid a erlidir ar gam ydyw, fod ganddo dyst yn ei fynwes ei hun, a thyst yn y nefoedd — ei gydwybod, a Duw — i appelio atynt, i brofi ei ddiniweidrwydd; ac y mae barn a mater y cyfryw un yn sicr o gael eu dwyn i’r goleuni, a’u gwneyd yn dda rywbryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.