Salmau 102 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM CII.8.7.Gweddi y cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn ger bron yr Arglwydd.

1Arglwydd grasol, clyw fy ngweddi,

Doed fy llef hyd atat fry:

2Na chudd di dy wyneb rhagof

Yn nydd blin cyfyngder du;

Gostwng glust drugarog ataf,

Gwrandaw arnaf yr awr hon,

Fel yr wyf yn llefain arnat

Yn gystuddiol ger dy fron.

3Can’s fy nyddiau a ddarfuant

Megys mŵg o’r ffwrnes noeth,

A fy esgyrn a boethasant

Drwyddynt, megys aelwyd boeth;

4A fy nghalon wan darawyd —

Gwywo fel llysieuyn wnaeth,

Fel ’r anghofiais fwyta ’m bara —

Yn llesg iawn fy natur aeth.

Rhan

II.

5Gan lais gwan fy nhuchanu — fy esgyrn

Derfysgwyd dan grynu;

Ac fel hyn maent yn glynu

Wrth fy nghroen — mawr boen im’ bu.

6Fel pelican yr anial

Ydwyf, mewn byd sychlyd sâl:

Fel dallhuan druan drwch,

Mewn noeth a phoeth ddiffaethwch;

7Gwelwais tra ’rwyf yn gwylio

Un taer, fel ’deryn y tô,

Yna, ar ben tŷ ’n unig,

Wrtho ’i hunan, druan, drig.

8Fy nigllon gaseion sydd

Yn poeni ’m henaid peunydd;

Ynfydu gan dyngu dig

A wneddynt mewn gwŷn eiddig,

Gan ddrwg, ymgynddeiriogi

A wnant yn fy erbyn i.

Iechyd sydd yn gwanychu;

9Lludw llwyd yn fwyd im’ fu

Yn lle bara da, a’m diod

Fu wylofain i fain fod;

10Dy lid a’m herlid â haint,

Oedd gyfiawn dy ddigofaint;

Cyfodaist, dyrchaist fi ’n dwydd,

A theflaist fi i warth aflwydd:

11Fel cysgodion gweigion gau,

Diddim y ciliai ’m dyddiau;

Gwywais i mewn gwaew syn

Is awyr fel llysieuyn.

Rhan

II.

8.7.

12Tithau, Arglwydd, yn dragwyddol

A barhei yr un o hyd,

A dy goffadwriaeth erys

Drwy holl oesau maith y byd;

13Ti, O Arglwydd! a gyfodi,

Trugarhei wrth Seion gaeth;

’R amser i dosturio wrthi,

Ië ’r amser nodwyd ddaeth.

14Hoffi ’i meini mae dy weision,

Wrth ei llwch, tosturiant hwy;

15Felly ’r holl genhedloedd ofnant

Enw mawr yr Arglwydd mwy;

A brenhinoedd pell y ddaear

Ofnant ei ogoniant ef;

Crymant yn y llwch yn isel,

O flaen Brenin mawr y nef.

16Pan yr adeilader Seion

Yn ’i ogoniant gwelir Duw;

17Ef ar weddi ’r gwael a edrych

Ni ddi’styra ’r truan gwyw:

18Hyn ’sgrifenir yn dystiolaeth

Werthfawr iawn i’r oesau i ddod,

Ac am hyny ’r bobl a enir

Seiniant byth i’w enw glod.

19O uchelder pur ei gyssegr

Yr edrychodd ein Duw mawr

Ar y ddaear, do, i wrandaw

Ocheneidiau plant y llawr;

20Ac i ddwyn y carcharorion

O’u caethiwed oll yn rhydd:

Hwythau ganant foliant iddo

Pan y delo ’r dedwydd ddydd.

Rhan

III.

8.7.4.

21Enw ’r Arglwydd a fynegir

Yn mhyrth Seion gyda chân;

Traethir moliant iddo ’n wastad,

Etto yn Nghaersalem lân:

22Pan ymgasglo ’r, & c.

Bobl i’w addoli ef.

23Ar y ffordd efe ostyngodd

Nerth fy einioes — ’rwy’n llesgau;

Gwnaeth fy hoedl megys dyrnfedd,

A fy nyddiau wnaeth fyrhau.

24Na ddwg ymaith, & c.

Fi, O Dduw! yn nghanol oes.

Yn oes oesoedd, heb heneiddio,

Pery dy flynyddoedd di;

25Ti yn y dechreuad seiliaist

Ddaear lawr a’r nefoedd fry.

26Hwy ddarfyddant, & c.

Ti barhei yr un o hyd.

Hwy heneiddiant fel dilledyn;

Megys gwisg newidi hwy:

Hwy newidir, ac nis gwelir

Byth eu hen agweddau mwy:

27Tithau ydwyt, & c.

Yn parhau yr un o hyd.

Dy flynyddoedd ni ddarfyddant:

28Plant dy weision oll yn llon

Sicrheir, a’u hâd a fyddant

Yn dragywydd ger dy fron:

Erys iti, & c.

Fawl dy saint yn Seion byth.

Nodiadau.

Gweddi y cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn ger bron yr Arglwydd, ydyw y teitl a roddir i’r salm hon. Pwy oedd y ‘cystuddiedig’ hwn, ni hysbysir i ni: ond eglur yw mai rhyw un o ffyddloniaid Israel yn Babilon, ar derfyn deng mlynedd a thrigain y caethiwed, oedd efe. Llefara yn ei enw ei hun — ond fel genau dros ei holl frodyr oedd yn nhrueni y caethiwed, ac yn disgwyl yn hiraethlawn am ymwared. Wedi cwyno o herwydd adfyd blin y caethiwed yn ngwlad y gelyn, oedd yn eu gwaradwyddo a’u gorthrymu, ymgysura y Salmydd yn yr ystyriaeth fod amser y waredigaeth, “yr amser nodedig” yn mhrophwydoliaeth Ieremiah, yn nesau, pan y byddai i’r Arglwydd drugarhau wrth Seion, a’u hadferu hwythau yn ol iddi, ac y byddai i’r waredigaeth hono ddwyn gogoniant i Dduw yn ngolwg yr holl genhedloedd o amgylch, ac y deuai llawer o honynt yn broselytiaid i’r grefydd Iuddewig, i addoli a moliannu Duw Israel. Try i gwyno drachefn, fel un yn meddwl am feithder y ffordd o Babilon i Ierusalem, ac yn barod i anobeithio y gallent byth gyrhaedd pen y daith. Ofnai y Salmydd drosto ei hun y buasai farw ar y ffordd, cyn gweled y waredigaeth wedi ei pherffeithio yn eu dygiad i Seion; a gweddïa yn daer am iddo gael ei arbed, a’i nerthu, i weled y diwedd a ddymunai. Appelia at dragwyddoldeb ac anghyfnewidioldeb Duw fel dadl i’w weddi: “Dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.” ‘Nid yw gras i ti ond gronyn,’ fel pe dywedasai. ‘Y ffafr hon wyf yn geisio, o arbed ac estyn fy nyddiau, i weled a mwynhau y waredigaeth sydd ger llaw wedi ei chwblhau. Nid yw ddim i ti, yr hwn y mae ei flynyddoedd yn oes oesoedd, ac sydd yn parhau byth yr un yn ddigyfnewid’; ïe, nid yw y waredigaeth fawr yr ydym yn ei disgwyl, er mor annhebyg yr ymddengys yn ein golwg ni, ac yn ngolwg ein gelynion, y bydd iddi yn fuan gael ei dwyn i ben, ddim i ti — ‘yr hwn yn y dechreuad a seiliaist y ddaear, ac a wnaethost y nefoedd, ac a elli eu plygu etto fel gwisg,’ a’u dodi heibio, ‘i’w chyflawni.’

Y mae llawer o ffyddloniaid yn yr eglwys efengylaidd yn aml yn yr un profiad ag yr oedd yr un Iuddewig yn Babilon — yn digaloni, a braidd yn anobeithio y cyflawnir byth yr addewidion am lwyddiant cyffredinol teyrnas Crist ar y ddaear, wrth weled y mynyddoedd mawrion o rwystrau a gwrthwynebiadau sydd ar ei ffordd. I olwg cnawd a rheswm, y maent yn rhwym o ymddangos yn anorfod; ond i olwg ffydd (fel yr edrycha y Salmydd yma) ar dragywyddoldeb, anghyfnewidioldeb, ffyddlondeb, a gallu anfeidrol y Duw a addawodd, y mae yr holl rwystrau yn diflanu yn ddim ar unwaith! Y mae megys ‘gronyn o hâd mwstard’ o’r ffydd hon yn Nuw yn yr enaid fel yn dadwreiddio y mynyddoedd hyn, ac yn eu bwrw oll i’r môr o flaen y meddwl. Y mae y priodoleddau hyn yn Nuw hefyd yn ffynnonellau cysur i’r credadyn gwan, yn yr ymdeimlad o’i lesgedd a’i ammherffeithrwydd ei hun, ac yn yr olwg ar gryfder ei lygredd a’i elynion ysbrydol, er cadarnhau ei obaith y bydd “i’r hwn a ddechreuodd y gwaith da ynddo ei orphen hyd ddydd Iesu Grist,” gan ei fod ef yn dragwyddol, yn anghyfnewidiol, yn ffyddlawn i’w addewidion, ac yn hollalluog i’w cyflawni.

Ond yn ol eglurhâd yr apostol (Heb. i. 10, 12) y mae yr ymadroddion yn adn. 25, ac o hyny hyd ddiwedd y salm, yn golygu y Mab, y Messïah (ac nid y Tad), ac yn cael eu dwyn i mewn ganddo fel tystiolaeth i’r mater oedd ganddo mewn llaw; sef, profi anfeidrol fawredd ac urddas personol y Mab uwch law yr angylion, fel y mae efe yn Greawdwr a Chynnaliwr y nefoedd a’r ddaear.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help