1Molwch Iôr, yr holl genhedloedd;
Molwch ef, holl bobloedd byd;
2Canys mawr yw ei drugaredd
Ef i ni bob dydd o hyd;
A’i wirionedd bery hefyd
Yn dragywydd. Molwch ef,
Holl dylwythau meibion dynion,
Yn mhob gwlad o dan y nef.
Nodiadau.
Hon ydyw y feraf o’r salmau, ond y mae ei thestyn yn fawr. Cyfeiria yr apostol ati (Rhuf. xv. 11) fel prophwydoliaeth o’r Hen Destament at alwedigaeth y Cenhedloedd trwy’r efengyl. Yn y rhagolwg ar anfeidrol raslonrwydd Duw yn yr alwad hono, geilw y Salmydd ar yr holl genhedloedd a’r bobloedd i’w derbyn a’i chroesawu gyda llawenydd a diolchgarwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.