1Cydglodforwch enw ’r Arglwydd,
Dyrchwch foliant hyd y nef;
Canys yn dragywydd pery
Ei drugaredd hyfryd ef:
2Pwy a draetha, & c.
Holl anfeidrol nerthoedd Duw?
Pwy fynega ei holl foliant?
Esyd allan ei holl glod?
3Gwyn eu byd y sawl a gadwant
Farn a chyfiawn uniawn nôd:
4Arglwydd! cofia, & c.
Fi yn ol dy ras i’th blant.
Ymwel â mi â’th iachawdwriaeth,
5Fel bo im’ wel’d daioni ’th saint,
Fel b’wyf lawen yn llawenydd
Pur dy genedl di, a’i braint:
Ac y caffwyf, & c.
Orfoleddu gyda’th bobl.
6Pechu wnaethom gyda’n tadau,
Anwireddus fuom ni;
7Yn yr Aipht ni ddeallasant
Hwy dy ryfeddodau di:
Ni chofiasant, & c.
Fawrion drugareddau Duw.
Rhan II.M. S.
Wrth y Môr Coch yn fawr eu bâr
Hwy ’n wrthryfelgar welid;
8Duw a’u harbedodd er ei glod,
I ’nabod ei gadernid.
9Ceryddodd y Môr Coch, a gwnaeth
Ffordd rydd drwy draeth y weilgi;
Tywysodd hwy drwy ’r dyfnder trwch,
A thrwy ’r anialwch wedi.
10Achubodd hwy o ddwylaw câs
Y rhai oedd ddugas iddyn’;
Ac a’u gwaredodd oll yn llon
O law eu creulon elyn.
11Y dyfroedd do’i ’u gelynion blin;
Ni adawyd un o honyn’:
12Credasant hwythau air y sant,
A moliannasant wed’yn.
13Ond yn y fan, anghofio ’n llwyr,
A myn’d ar ŵyr a wnaethant;
Wrth gynghor Duw, rai cyndyn câs,
Hwynthwy ni ddisgwyliasant.
14A blysio ’n ddirfawr wedi hyn
A wnaethant yn ’r anialwch;
A themtio Duw, eu cadarn Iôr,
Yn ngoror y diffaethwch.
15Ac ef a roddes heb nacâd
Eu holl ddymuniad iddynt;
Ond anfon wnai i’r anwir blaid
Gulni i’w henaid ynddynt.
Rhan III.M. S.
16Wrth Moses yn y gwersyll drwy
Genfigen, hwy wnaent dramgwydd;
Ac hefyd yn eu nwyfus chwant,
Wrth Aaron, Sant yr Arglwydd.
17Agorai ’r ddaear yn y man,
Traflyngcai Ddathan iddi;
Cyn’lleidfa Abiram yr un modd
A lyngcodd i drueni.
18Cynneuodd tân am eu trahâ
Yn eu cyn’lleidfa hefyd;
Y fflam a ysodd yn ei chôl
Y rhai annuwiol ynfyd.
19Llo tawdd yn ddelw ’n Horeb wnaen’,
Cryment o’i flaen yn unol;
20Ac felly tro’ynt ogoniant Iôn
I lun yr eidion carnol.
21-22Anghofient Dduw, eu Ceidwad clau,
’R hwn wnaethai bethau mawrion;
Yn ’r Aipht, yn Ham, ac wrth y môr,
Gwnaeth Iôr ei wyrthiau cryfion.
23Am hyny d’wedodd ef y gwnai
Eu lladd bob rhai o honynt;
On’ buasai i Moses ar y pryd,
Droi draw ei lid oddi wrthynt.
Rhan IV.M. S.
24’R ysbïwyr hefyd ro’ent mewn brad
Anair i’r wlad ddymunol;
A’r dyrfa oll a ro’ent dan sang
Air Duw yn anghrediniol.
25A grwgnachasant bawb un ddull
O fewn eu pebyll yno;
Ar lais Duw ni wrandawent hwy,
Ymröent fwy‐fwy i’w ddigio.
26Yna dyrchafodd ef ei law
I’w cwympaw yn ’r anialwch;
27A’u had y’ mysg y bobloedd draw,
I’w toi â braw a thristwch.
28A Baalpeor, eilun du —
Gwnaent ymgyssylltu â hwnw;
A chydfwytaent yn eu gwŷn
Aberthau ’r eilun marw.
29Felly digiasant hwy yr Iôn,
A’u coeg ddych’mygion ofer;
Ac yn eu mysg tarawodd pla
I’w difa ar ei gyfer.
30Phinees a safodd dros ei Dduw,
A barn iawn wiw wnaeth yno;
A’r pla attaliwyd,
31a rhoes Nêr
Hyn yn gyfiawnder iddo.
Rhan V.M. S.
32Wrth ddyfroedd cynnen Meriba,
Yr Arglwydd a lidiasant;
Bu ddrwg i Moses ar y pryd
O’u plegid — cythruddasant
33Ei ysbryd tyner, fel y gwnai
Gam dd’wedyd â’i wefusau;
A tharaw ’r graig a wnaeth yn hy’
Yn lle llefaru geiriau.
34Gommeddent ddifa ’r bobl, y rhai
’R archasai ’r Arglwydd felly;
35Ond ymgymmysgu wnaent o’u bodd
A’r hen genhedloedd hyny.
Dysgasant eu gweithredoedd ffol
36Ac aent ar ol eu delwau;
Yn fagl iddynt troes y rhai’n,
Ac fel drain i’w hystlysau.
37-38Eu meibion glân, a’u merched rhi,
Aberthent i gythreuliaid;
Tywalltent wirion waed y rhai
Fuasent eu hanwyliaid.
Y rhai wnaent hwy ’n aberthau tân
I dduwiau Canaan euog;
Ac felly gan y gwirion waed
Y tir a wnaed yn halog.
Rhan VI.M. S.
39Llwyr ymhalogi wnaent ar g’oedd
Yn eu gweithredoedd creulon;
A phuteiniasant hwy ar ol
Eu gwag a ffol ddych’mygion.
40Am hyny dig Iehofah ’n chwai
Ennynai at ei eiddo;
Ei etifeddiaeth ef, a’i braidd,
A aent yn ffiaidd ganddo.
41Eu rhoddi ’n llaw ’r Cenhedloedd wnaeth
I’w dwyn yn gaeth eu helynt;
A’u holl gaseion wrth eu chwant
Lywodraethasant arnynt.
42Ac hefyd eu gelynion câs
A’u gorthrymasant beunydd;
A darostyngwyd hwy mewn braw
O dan eu dwylaw efrydd.
43Ond llawer iawn o weithiau gwnaeth
Duw waredigaeth iddynt;
Hwythau a’i digient e’n ddidor
Yn ol eu cynghor cildyn.
Cystuddiwyd hwy, fe ’u gwnaed yn wan,
O herwydd eu hanwiredd;
44Ond pan mewn ing y clywai ’u llef,
Fe gofiai ef drugaredd.
45A chofiai ei gyfammod gynt
A wnaethai â hwynt a’u tadau;
Edifarhau a wnai yn ol
Ei rasol drugareddau.
46Ac ef a barai iddynt gael
Trugaredd hael a seibiant,
Gan eu gelynion cryfion câs
Y rhai a’u caethiwasant.
47Iehofah ein Duw, O achub di!
Nyni o fysg y bobloedd;
A chynnull ni, dy bobl, ynghyd,
Wasgarwyd hyd y tiroedd,
I gydglodfori â llawen gân,
Dy enw glân sancteiddiol;
Ac gorfoleddom gyda ’th blant
Byth yn d’ ogoniant nefol.
Nodiadau.
Yn y salm flaenorol, cawsom yr ochr oleu i golofn hanes y genedl a waredwyd o’r Aipht; ac yn hon, yr ochr dywyll iddi. Yn y flaenaf, cofnodir rhestr o ddoniau a ffafrau arbenig Duw iddi, yn y gwyrthiau a’r rhyfeddodau mawrion a wnaethai efe iddi; ac yn yr olaf, cofnodir ei childynrwydd, ei hanghrediniaeth, ei hanniolchgarwch, a’i gwrthryfelgarwch hithau yn ngwyneb yr holl ddaioni a dderbyniasai, a’r ceryddon a weinyddodd yr Arglwydd arni o blegid hyny. Y mae goleuni yr ochr oleu yn ymddangos yn fwy disglaer a gogoneddus wrth i ni edrych arni yn gyferbyniol i’r ochr dywyll — a hithau i’w gweled yn fwy tywyll yn yr un cyferbyniad.
Bu llawer un yn synu wrth ddarllen hanes y genhedlaeth hono o blant Israel, ac yn barod i ammheu gwirionedd yr hanes am dani — bod yn bossibl i bobl oedd yn byw yn ngolwg ac yn nghanol rhyfeddodau a gwyrthiau Duw bob dydd, ïe, yn bwyta ac yn yfed gwyrthiau, yn fanna o’r nef, ac yn ddwfr o’r graig, yn wastadol — bod yn bossibl, meddwn, i’r cyfryw bobl allu ymddwyn mor anniolchgar, grwgnachlyd, a gwrthryfelgar, ag y tystiolaethir am danynt yn y salm hon, ac mewn llawer o ranau ereill o’r Ysgrythyr. Ond ped ystyriem ein bywyd anniolchgar ein hunain, a’n hanghof beunyddiol o Dduw yn nghanol ei ddoniau a’i waredigaethau cyffredinol i ni bob dydd, ni a welem ddigon i’n hargyhoeddi i gredu mai yr un fath a hwy yn hollol yr ymddygasem, pe buasem ni yn eu lle hwy. “Y pethau hyn a wnaed,” medd yr apostol, “yn siamplau i ni, fel na chwennychem ddrygioni, fel y chwennychasant hwy,” & c.; 1 Cor. x. 1-11.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.