Salmau 46 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM XLVI.I’r Pencerdd o feibion Corah, cân ar Alamoth.

1Ior a’i nerth sy’n dŵr i ni,

Ei nawdd cawn yn nydd cyni:

2Am hyn ni ’n dychryn, ni ’n dawr,

Un terfysg na brad dirfawr.

Daear gron pe dirgrynai

Hyd ei chryf waelod, a’i chrai:

Pe teflid, pe hyrddid hi

Ar chwal oddi ar ’i hecheli:

A tharfu drwy wyrth erfawr

Fynyddoedd i’r moroedd mawr:

3Er rhuo gan gyffro gwyllt

O’r eigion cynddeiriogwyllt,

Nes b’ai seiliau bannau ’r byd

Fel yn ymddadafaelyd —

4Llifo ’n araf mae afon

Yn ei sedd drwy ddinas Iôn,

Hoff redeg mae ei ffrydiau,

Llawn o hyd, i’w llawenhau.

5Trig Iôr glân yn ei chanol — ni syfla

Hi o’i safle ’n dragwyddol;

Ef a ry’ help foreuol,

Ef erioed ni fu ar ol.

6Y cenhedloedd cynnadlant

Yn wyllt, a therfysgu wnant;

Teyrnasoedd enwog ysgogant

I lawr oll yn wael yr ant;

Iehofah o’r nef a lefa,

Y ddaear oll ar dawdd yr ä.

7O’n tu mae Iôr y lluoedd,

Duw Iago i ni, digon oedd.

8Dewch i weled gweithredoedd — Iehofah,

Mae ’n rhyfedd ei nerthoedd;

9Gwna yn dawel ryfeloedd,

Tỳr eu blin antur a’u bloedd.

Cilia addysg y cleddyf,

Na b’o cred mewn bŵa cryf;

Na ffydd yn y waewffon;

Y dalch wna ef yn deilchion;

Milain gerbydau Moloch,

Llidiog certh, wna ’n lludw coch.

O’n tu mae Iôr y lluoedd,

Duw Iago, i ni digon oedd;

Duw Iago, i ni digon yw —

Byw blaid i’w bobl ydyw.

10-11Ust! ddynion llwydion y llawr,

A’ch terfysg, a’ch rhoch taerfawr,

Sylwch, a chofiwch hefyd,

Mai Iehofah bïau y byd;

Ei enw mad fydd ofnadwy

Y’mysg y cenhedloedd mwy.

Nodiadau.

“Cân ar Alamoth:” — naill ai tôn, neu offeryn cerdd o’r enw. Y gred gyffredin yw, mai Dafydd a gyfansoddodd y gân; ac mai ei fuddugoliaethau ar y Moabiaid a’r Syriaid, a goffeir yn 2 Sam viii., oedd yr achlysur. Beth bynag am hyny, ni chyfododd ei ffydd ef, na neb arall, erioed yn uwch nag yn y gân hon. Y mae megys yn herio y digwyddiadau mwyaf ofnadwy a dychrynadwy a allant gymmeryd lle byth i beri iddo ofni nac arswydo:— terfysg cenhedloedd, cwymp teyrnasoedd, symmudiad y ddaear, hyrddiad y mynyddoedd oddi ar eu sylfeini i’r môr, dattodiad a chwaliad natur oll oddi wrth ei gilydd. “Nid ofnwn,” medd efe, canys “Duw sydd noddfa a nerth i ni.” Edrycha ar, ac ymlawenycha yn sefydlogrwydd a diogelwch yr eglwys (y ffyddloniaid) yn nghanol yr holl derfysgoedd a gythryblent y cenhedloedd, a ysgogent y teyrnasoedd, ïe, yn nghanol dattodiad a dinystr elfenau y greadigaeth, dan nawdd gallu a ffyddlondeb Duw. Pan fyddai pethau yn ymddangos yn dywyll a bygythiol iawn ar achos y Diwygiad Protestanaidd, fel y buont lawer gwaith yn ei dymmor boreuol; a phan fyddai cyfeillion y Diwygiad ar dori eu calonau mewn anobaith, dywedai Luther bob amser yn wyneb amgylchiadau felly — “Wel, gadewch i ni ganu y chweched salm a deugain.” Y mae hon, yn wir, wedi bod yn un o hoff ganiadau yr eglwys bob amser. Ystafell y Cristion i lechu ynddi, “hyd onid êl y llid heibio,” lle y “cedwir ef mewn tangnefedd heddychol — yn nirgelwch y Goruchaf, dan gysgod yr Hollalluog.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help