Salmau 70 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM LXX.M. S.I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.

1Prysura i’m gwared, O! fy Naf,

O! brysia ataf weithion;

A dyro gymmhorth

2rhag y blaid

A geisiant f’ enaid gwirion.

Rhai ewyllysiant i mi ddrwg,

3Dattröer dan ŵg a ch’wilydd;

Rhai dd’wedant wrthyf fi, Ha! Ha!

Mawr fyddo ’u trahâ beunydd.

4Llawenydd a gorfoledd fo

I bawb a’th geisio, Arglwydd;

D’weded a garant d’ enw gwiw,

Mawryger Duw ’n dragywydd.

5Tlawd ac anghenus ydwyf fi,

O! meddwl di am danaf;

Fy nghymmhorth a’m gwaredydd da,

O! brysia, brysia ataf.

Nodiadau.

Yr un yn mron yn hollol a’r ddeugeinfed salm, o adn. 13, yw y salm hon hyd y diwedd. Dichon ddarfod i Dafydd, ar ryw achlysur o drallod, yn mhen amser ar ol iddo gyfansoddi y flaenaf, gymmeryd y gyfran olaf hon o honi i’w chymmhwyso i wasanaeth y cyssegr ar yr achlysur hwnw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help