1Molwch yr Arglwydd: gwyn ei fyd
Y gŵr a ofno Dduw,
Ac sydd yn dirfawr hoffi ei
Orch’mynion sanctaidd gwiw:
2-3Ei hâd fydd cadarn yn y byd,
Ei holl wehelyth fydd
Lwyddiannus, ac yn ddedwydd dan
Fendithion Duw bob dydd.
4Trugarog a thosturiol iawn
A chyfiawn yw’r gŵr da,
5A chymmwynasgar hefyd yw,
A rhoddi benthyg wna:
Wrth farn y llywodraetha ei
Achosion yn y byd,
6Ac nid ysgogir mono byth,
A phery ’i goffa o hyd.
7Nid ofna ef rhag chwedl drwg,
Ei galon disigl yw,
O herwydd bod ei galon e’n
Ymddiried yn ei Dduw;
8Ei galon a attegwyd, ac
Nid ofna ddim un pryd,
Nes gwelo ei ewyllys ar
Ei elynion oll i gyd.
9Gwasgarodd, rhoes i’r tlodion ran,
A’i iawnder sy’n parhau;
Ei gorn ddyrchefir fry mewn mawr
Ogoniant yn ddiau;
10’R annuwiol ddigia pan wêl hyn,
’Sgyrnyga ’i ddannedd syth,
A thodda ymaith; derfydd am
Ei holl ddymuniad byth.
Nodiadau.
Y mae trefn, dull, cyfansoddiad, a mater y salm hon yn ddigon i’n sicrhau mai yr un yw ei hawdwr a’r salm o’r blaen. Gwrthran i hono ydyw hon. Yn hono gosodir allan nodwedd Duw fel gwrthddrych mawl ac addoliad, ac yn hon gosodir allan nodwedd dyn Duw fel esampl i’w efelychu. Defnyddir yr un ymadroddion am y ddau — Duw, a dyn Duw. Yn y flaenaf, dywedir am Dduw fod “ei gyfiawnder ef yn parhau byth;” a dywedir yr un peth am ddyn Duw yn hon drachefn. Dywedir am Dduw yn y flaenaf, “Graslawn a thrugarog yw yr Arglwydd;” a’r un modd dywedir yn yr olaf am y duwiol, “Trugarog, a thosturiol, a chyfiawn yw efe.” Etto, am Dduw, dywed y gyntaf, “Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant, a gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylaw,” & c.; ac am y gŵr cyfiawn yn hon, dywedir “Gŵr da sydd gymmwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.” Deiliaid y greadigaeth newydd drwy ras a ddangosir i ni yma — dyn wedi ei eni o Dduw — yn “gyfranog o’r dduwiol anian,” ac yn cynnyddu yn ol ac ar ddelw yr hwn a’i creodd ef, er yn ammherffaith iawn ar y goreu. Y mae y pethau sydd yn briodoleddau hanfodol, yn berffeithderau anfeidrol a thragwyddol yn Nuw, yn rasau a rhinweddau, a ffrwythau dylanwad gras ac ysbryd Duw yn y gwrthddrych a bortreadir yn y salm hon. Nid oes un portread mwy cyflawn a phrydferth o nodwedd moesol Duw mewn cylch mor fychan yn yr holl Ysgrythyr, nag sydd yn y salm flaenorol; ac nid oes un portread mwy felly chwaith o’r dyn duwiol i’w gael yn un man yn y Beibl na’r un a rydd y salm hon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.