1Ai cyfiawnder yn ddiau
Draethwch chwi, gynghorwyr gau?
Ai uniondeb fernwch chwi,
Feibion dynion uchel fri?
2Anwir waith yn hytrach sydd
Yn eich calonau nos a dydd;
Trawsder mawr eich dwylaw câs
Bwyswch hwyr a boreu glas.
M. H.
3O’r groth yr holl annuwiol rai
A gydymlygrent yn eu bai;
O’r bru y cyfeiliornent hwy,
Gan ddywedyd celwydd fwy na mwy;
7au.
4Megys gwenwyn sarph mae llid
A gwenwyn eu calonau i gyd;
Ar a than eu tafod câs
’R erys beunydd — wŷr diras.
M. H. D.
Maent fel y neidr fyddar fud,
Yr hon a gau ei chlustiau ’nghyd;
5Ni wrendy ar lais y rhiniwr mwyn,
Er cyfarwydded fyddo ’r swyn:
6Dryllia, O Dduw! eu dannedd dig,
Yn eu geneuau tòr eu brig,
Dryllia, tòr gilddannedd llym
Y llewod ieuaingc mawr eu grym.
7Gwna di hwy fel dwfr y sydd
Yn rhedeg ymaith nos a dydd;
Pan saethent hwy eu saethau, pâr
Nad allont gyrhaedd nôd eu bâr:
8Aent ffwrdd fel tawdd‐falwoden wael,
Neu erthyl na chadd wel’d yr haul;
9Cyn i’w crochanau deimlo gwres
Eu ffaglau tanynt, darffo ’u lles.
Duw a’u dwg ymaith oll i gyd,
Megys â chorwynt yn ei lid —
10Y cyfiawn yntau lawenhâ
Pan welo ’u dial a’u trahâ —
Pan ylch efe ei draed mewn llyn
O waed yr annuwiolion hyn;
11Fel d’wedo dyn, “Diau fod ffrwyth
I’r da — a Duw i dalu ’r pwyth.”
Nodiadau.
Troi yn chwerwlym ar ei gyhuddwyr anghyfiawn, sef cynghorwyr gwenieithus Saul, y mae Dafydd yn nechreu y salm hon. Wedi rhoddi disgrifiad o’u drygedd, eu malais, a’u creulondeb, cyhoedda y dinystr llwyr a fyddai yn sicr o’u goddiweddyd. Pe y cesglid yr holl hanesion am y barnau amlwg a ddisgynasant erioed ar lywodraethwyr gorthrymus, a barnwyr traws ac anghyfiawn, gwnaent swm mawr o gyfrolau. Y mae taranau bygythion Duw yn erbyn y rhai hyn i’w clywed yn rhuo drwy yr holl Ysgrythyrau — yn fwy felly, gyda golwg ar farnau tymmorol, nag yn erbyn un dosbarth arall o droseddwyr. Gweddïa y Salmydd yma am i farnedigaeth amlwg felly ddal ei erlidwyr trawsion ef, fel y gwelai ac yr ofnai dynion ereill, ac y dywedent, “Diau fod ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaear.”
Ar yr ymadrodd, “Cyn i’ch crochanau glywed y mieri” (adn. 9), methais a chael un eglurhâd a roddai i mi ronyn o foddlonrwydd gan un esboniwr, ac nid oes genyf yr un fy hun i’w gynnyg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.