1Duw sydd yn sefyll yn ddiau
’Nghyn’lleidfa ’r rhai galluog,
Yn mhlith y duwiau barn a rydd
Y Llywydd Hollalluog.
2Pa hyd y bernwch ar gam, gair
Wneyd ffafr i’r annuwiolion?
3Bernwch y tlawd, gwnewch iawnder mâd
I’r rhai amddifad gweinion.
Y cystuddiedig cyfiawnhewch;
I’r rheidus gwnewch unionder:
4Dewch â’r anghenus tlawd yn ol
O law ’r annuwiol ’sgeler.
5Ni wyddant, ni ddeallant chwaith,
Mewn t’wllwch maith y rhodiant;
Holl ddwfn sylfaenau ’r ddaear gre’
O’u lle a symmudasant.
6Mi dd’wedais, Duwiau ydych chwi,
A meibion i’r Goruchaf;
7Ond meirw megys dynion fydd
Eich diwedd prudd truanaf.
8Cyfod, O Dduw! a gwna farn ar
Y ddaear a’i therfysgoedd,
Can’s ti a etifeddi ’r byd
Ynghyd â’i holl genhedloedd.
Nodiadau.
Salm o addysg, a rhybudd, a chynghor i lywodraethwyr y bobl ydyw hon, a gyfansoddwyd, mi a dybygwn, gan awdwr y salm nesaf, yr hwn oedd un o feibion Asaph, yn nyddiau Iehosaphat, fel y cawn ddangos yn mhellach yn ein nodiadau. Cawn yn 2 Cron. xix. i Iehosaphat fyned trwy y bobl o Beerseba i fynydd Ephraim, a gosod barnwyr yn yr holl ddinasoedd caerog, a rhoddi siars ddifrifol iawn i’r barnwyr hyny ar iddynt edrych beth a wnelent, gan ofalu am weinyddu barn gywir a diduedd. Yr un yn hollol a mater y siars hono o eiddo y brenin ydyw mater y salm hon. Yr oedd barnwyr Iudah yn gyffredin yn ddiarhebol am eu trachwant am wobrau, eu trais, a’u hanghyfiawnder, drwy dderbyn wynebau y cyfoethogion, a gŵyro barn yn erbyn y tlawd. Achwyna y prophwydi Esaiah a Micah yn drwm iawn arnynt yn nyddiau Hezeciah, a bygythiant hwynt yn dost; ac felly y gwna y Salmydd yma gyda golwg ar farnwyr ei amser ef. Barnedigaeth drom iawn ar wlad yw barnwyr anghyfiawn a garant lwgrwobrwyon: ac nid oes un dosbarth o droseddwyr yn cael eu bygwth â dialedd Duw yn drymach a mynychach na’r dosbarth hwn. Cwyna y Salmydd (adn. 5) fod y barnwyr y pryd hyny yn anwybodus a diddeall yn nyledswyddau eu swydd, ac o herwydd hyny fod seiliau y ddaear — y wladwriaeth — megys wedi eu symmud o’u lle; a dwg ar gof iddynt, megys y gwna Iehosaphat yn ei siars, fod y Barnwr Goruchaf yn eu gwylio, ac y gelwir hwynt i gyfrif ganddo. Dysgir iddynt eu bod yn derbyn eu hawdurdod farnol oddi wrth Dduw; ac o blegid hyny gelwid hwynt yn “dduwiau,” am eu bod yn ei gynnrychioli ef, ac felly yn gyfrifol iddo fel Goruwchfarnydd cyfiawn, ac fel ei oruchwylwyr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.