Salmau 61 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM LXI.8.7.3.I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.

1Clyw, O Dduw! fy llefain — gwrando

Ar fy ngweddi,

2o eitha’r byd;

Llefain arnat, ar lesmeirio,

Mae fy nghalon wan o hyd:

Arwain di, Arglwydd cu,

Fi i’r graig sy’n uwch na mi.

3Canys buost noddfa imi,

Ac yn gadarn dŵr, a nerth,

I’m hamddiffyn a’m gwaredu

Rhag cynddaredd gelyn certh:

4Minnau byth, yn ddilyth,

Yn dy babell wnaf fy nyth.

Fy ymddiried fydd yn wastad

O dan nawdd d’ adenydd di,

5Canys ti, O Dduw! a glywaist

’R addunedau wnaethum i:

Rhoddaist di, ’n eiddo i mi,

’R bobl a ofnant d’ enw cu.

6Ti estyni oes y brenin,

Rhoi ogoniant arno ef,

Megys cenedlaethau lawer

Bydd ei ddyddiau dan y nef:

7Ger bron Duw, byth caiff fyw,

Yn ngoleuni ’i wyneb gwiw.

Darpar iddo dy wirionedd,

A’th drugaredd ryfedd rad,

Fel y cadwont ef yn wastad

8Mewn cyflawnder o fwynhâd:

Minnau äf i’th dŷ, Naf,

Talu f’ addunedau wnaf.

Nodiadau.

Yn “eithaf y ddaear” — h. y., dybygid, ar derfyn eithaf tir Iudah, yn Mahanaim, yn ei fföedigaeth rhag Absalom, a’i galon yn llesmeirio gan drallod a gofid — yr oedd Dafydd yn cwyno, ac yn gweddïo yn nechreu y salm hon. Ymddengys yn debygol ddarfod iddo chwanegu y gyfran, o’r bummed adnod hyd y diwedd, at y rhan flaenorol, wedi iddo gael ei wrandaw, ei waredu o’i drallod, a’i ddwyn yn ol i Ierusalem, a’i adsefydlu drachefn ar ei orsedd. Addawa iddo ei hun barhâd y nodded a’r ffafr ddwyfol drosto am hir amser wedi hyny, ac adduneda y byddai iddo aros a thrigo byth, holl ddyddiau ei fywyd, “ger bron Duw, yn ei dŷ a’i wasanaeth.” Yr oedd efe yn ystyriol fod Duw yn dyst o’i addunedau a wnaethai yn amser ei drallod, ac yn eu cofio, ac y mae yntau ei hun yn eu cofio, ac yn penderfynu eu talu. Y mae llawer yn addunedu mewn trallod, nad ydynt byth yn gofalu am eu talu ar ol cael eu gwaredu o hono. “Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu, canys nid oes ganddo flâs ar rai ynfyd y peth a addunedaist, tâl,” medd y gŵr doeth: Preg. v. 4.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help