1Clyw, Arglwydd, fy ngweddi o’m gwaeledd,
A gwrandaw’m deisyfiad yn awr;
O! erglyw fi yn dy wirionedd
Er mwyn dy gyfiawnder sydd fawr;
2Ac na ddos i farn â’th was’naethwr:
Os felly, ’does undyn a sai’:—
Pob un sydd yn aflan ei gyflwr,
I’r gwaelod, dan bechod a bai.
3Y gelyn erlidiodd fy enaid,
A churodd e’ i lawr yn ei lid,
’Rwy’n trigo ’n ddiobaith yn ddibaid
Mewn t’wyllwch, heb heddwch o hyd;
Fel hwy sy’n y bedd er’s hir amser
’Rwyf allan o olwg y byw;
4Fe ballodd fy ysbryd gan bryder,
A’m calon sy’n wan ac yn wyw.
Rhan II.M. S.
5Cofiais y dyddiau gynt, a gwaith
Dy ddwylaw perffaith, Arglwydd;
Ac ar dy waith bydd i barhau
Fy myfyrdodau dedwydd.
6Lledais fy nwylaw atat ti;
Fy enaid i sy’n wastad
Fel tir sychedig am y gwlaw,
’N hiraethus iawn am danat.
7O Arglwydd! gwrandaw fi ’n y fan,
Mae’m hysbryd gwan yn pallu;
Na chudd dy wyneb, rhag yn awr
I’r pydew mawr fy llyngcu.
8Pâr i mi glywed fore glâs,
Dy râs — gobeithiais ynod;
Pâr i mi wybod dy ffordd gu,
A rhodiaf ynddi ’n wastad.
Dyrchafaf f’enaid atat ti —
9Cadw fi rhag y gelyn;
Ymguddiaf, druan, ofnus, gwan,
Byth byth o dan dy edyn.
10Dysg i mi wneyd d’ewyllys di,
Rho im’ oleuni’th wyneb;
Tywysed d’ ysbryd grasol gwir
Fyfi i dir uniondeb.
11Er mwyn dy enw, Arglwydd da,
Bywhâ, a dwg yn dyner,
Fy enaid o bob ing a gwae,
O’th gyfiawnderau lawer.
12Dinystria o’th drugaredd, Iôn,
Fy holl elynion dyrus;
Dy was di wyf — disgyn i’r llaid
Gystuddwyr f’enaid ofnus.
Nodiadau.
Ni hysbysir i ni le nac amser cyfansoddiad y salm hon, fel yr un o’r blaen. Mỳn rhai mai yn ystod tymmor ei ffoedigaeth rhag Saul y canodd Dafydd hi; ac y mae cryn gyffelybrwydd rhyngddi a salmau y tymmor hwnw. Mỳn ereill mai yn amser ei ffoedigaeth rhag Absalom y cyfansoddodd efe hi. Fodd bynag, ymddengys oddi wrth yr ymadrodd, “Cofiais y dyddiau gynt,” ei bod yn ddiweddarach yn ei oes ef na’r tymmor cyntaf; ac y mae yr ymadrodd, “Na ddos i farn â’th was, o herwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di,” yn ffafriol i’r dybiaeth mai yn amser ei ffoedigaeth rhag Absalom y gweddïodd efe y weddi hon. Y mae yn appelio at Dduw fel tyst o’i ddiniweidrwydd bob amser yn ei weddïau yn amser erledigaeth Saul arno. Ond yn y trallod hwn, yr oedd arno ofn i’r Arglwydd fyned i farn âg ef, a’i adael i ddarfod am dano ynddo, am y gwyddai mai trallod a ddygasai efe arno ei hun yn achos Urias yr Hethiad ydoedd. Gosodir y salm yn nosbarth Salmau Edifeiriol Dafydd — a hi yw yr olaf o honynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.