1Ti fuost i ni, Arglwydd da,
’N breswylfa, ’mhob cenhedlaeth:
2Cyn gwneuthur y mynyddoedd mawr,
A’r ddae’r gwmpasfawr helaeth.
Ti ydwyt Dduw erioed cyn neb,
O dragwyddoldeb cyntaf;
Hyd dragwyddoldeb etto i dd’od
Y cyntaf fod, a’r olaf.
3Troi ddyn i ddinystr, d’wedi di,
Dychwelwch chwi, blant dynion;
Ystyriwch ddiwedd bywyd brau,
A byddwch chwithau ddoethion.
4Can’s mil o flwyddi ’n d’ olwg di
Fel doe y sy, pan elant
Hwy heibio; ac fel gweledigaeth nos,
Heb fawr ymaros ciliant.
5Tydi a’u dygi hwy i bant
Fel â llifeiriant nerthol;
Maent fel hûn boreu, ac fel gwan
Lysieuyn egwan deifiol.
6Y boreu y blodeua ’n îr,
Brydnawn fe’i torir ymaith;
7Can’s yn dy lid brawychi ni
Ac y’n dyfethi eilwaith.
8Dodaist o’th flaen ein beiau ni,
Ni allwn i ti atteb;
A’n dirgel feiau mawr eu rhi
Oll yn ngoleuni ’th wyneb.
9Can’s darfu ’n dyddiau ni gan faint
Dy drwm ddigofaint arnom;
A’n holl flynyddoedd dan dy bla
Fel chwedl a dreuliasom.
10Yn nyddiau ein blynyddoedd brêg
Y mae saith deg o nifer;
Os ceir deg ereill drwy ddihoen
Eu nerth sydd boen a blinder.
Can’s darfod wnant yn ebrwydd iawn,
A hedeg wnawn ni ymaith;
I’r bedd disgynwn felly ’n brudd,
A derfydd dydd ein hymdaith.
Rhan II.M. S.
11Pwy edwyn nerth dy soriant di?
Pwy saif yn gry’ mewn hyder?
Can’s fel mae d’ ofn, O Dduw! ’n ddiau,
Fel hyny mae dy ddigter.
12Dysg i ni felly mewn iawn bryd
I gyfrif hyd ein dyddiau;
Fel byddo i ni ddysgu rhin
Doethineb i’n calonau.
13Dychwel, O Dduw! edifarhâ,
A bydd yn dda i’th weision;
14D’walla ni yn foreu â’th hedd
O’th fawr drugaredd dirion.
Fel caffom orfoleddu ’n glau
Dros ein holl ddyddiau ’n hyfryd;
15Pâr i ni etto lawenhau
’Nol bu blynyddau ’n drygfyd.
16Gweler dy waith, O Arglwydd Iôn!
Tuag at dy weision ufudd,
A’th fawr ogoniant at eu plant,
A dedwydd fyddant beunydd.
17Boed, Arglwydd, dy brydferthwch di
I’n c’roni ni ’n wastadol;
A threfna waith ein dwylaw ’n rhwydd
’Nol dy foddlonrwydd grasol.
Nodiadau.
A ydyw Moses hefyd yn mysg y Sallwyr? Felly y dywed teitl y salm hon: ac felly y cyttunai esbonwyr yr oesau, gan mwyaf. Hon, gan hyny, yw y salm henaf o’r salmau oll. Rhaid ei bod wedi ei chyfansoddi tua phedwar can mlynedd o flaen y gyntaf i Dafydd. Darllenir y salm hon yn fynychach nag un salm arall, oddi gerth y xxxix.; canys darllenir y ddwy yn wastad yn ngwasanaeth claddedigaeth y marw yn yr Eglwys Sefydledig; a chan Ymneillduwyr yr un modd yn gyffredin.
Cyfansoddodd Moses y salm brudd‐ddifrifol hon wedi i’r Arglwydd gyhoeddi y ddedfryd drom ar yr holl genedl a waredasai efe o’r Aipht, o fab ugain mlwydd ac uchod, o herwydd eu hanghrediniaeth a’u gwrthryfel, pan ddygodd yr yspïwyr anair i’r wlad dda: Num. xiv. Llwyddasai eiriolaeth Moses drostynt i droi ei lid oddi wrthynt bob tro o’r blaen, ond yr oedd llŵ Duw ar eu hachos yn cau ei enau y tro hwnw. Dedfrydwyd hwynt i grwydro yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, hyd oni threngai y genedl oll yno, o fab ugain mlwydd oed ac uchod.
Wrth yr ymadrodd, “Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain,” & c., yr ydym megys yn gweled cyfnod newydd ar einioes dynolryw yn gyffredin, yn gystal ag ar y genhedlaeth hono o feibion Israel, yn dechreu; canys y mae y dadganiad yn wirionedd cyffredinol yn hanes a phrofiad oesau a chenhedloedd y byd. Yr oedd tadau cyntaf y genedl — Abraham, Isaac, ac Iacob — a’u cydoeswyr yn gyffredin, y mae yn llwyr debygol, yn hirhoedlog iawn:— Abraham yn gant a phymtheng mlwydd a thrigain pan fu farw; ac Isaac yn gant a phedwar ugain. Erbyn dyddiau Moses yr oedd yr oes ddynol wedi dihoeni a byrhau. Yr oedd ef, ac Aaron, a Miriam yn gant ac ugain pan fuont feirw: Iosuah a Caleb, yr unig ddau yn y gwersyll na ddisgynodd y ddedfryd hono yn yr anialwch arnynt, yn gant a deg oed pan fuont feirw — Iosuah, beth bynag. Ni chawsom oedran Caleb, ond rhaid ei fod ef tua’r un oed ac Iosuah.
Ni all un dyn ddarllen y salm hon gyda gradd o ystyriaeth heb deimlo ei feddwl yn difrifoli uwch ei phen. Y mae yr ystyriaethau pwysig am freuder a byrder yr oes ddynol yn cael eu cyfleu o’i flaen, a’u cymmhell ar ei sylw ynddi. “O! na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!” medd Moses yn ei gân olaf i feibion Israel: Deut. xxxii. 29. A gweddïa am y ddoethineb hon yn y salm yma, pan y dywed — “Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb;” adn. 12.
Dechreua ei salm drwy wneyd coffadwriaeth o ddaioni yr Arglwydd iddynt er eu dechreuad fel cenedl hyd yr amser hwnw, pan yr oedd efe wedi sori yn gyfiawn wrthynt — “Ti fuost yn breswylfa i ni yn mhob cenhedlaeth,” medd efe. Dyeithriaid a phererinion ar y ddaear fuasent etto, er dyddiau Abraham, heb un cartref daearol sefydlog, fel pobl ereill; ond buasai eu Duw ei hun yn dŷ a chartref, craig a chysgod iddynt, yn eu holl grwydriadau. Edrycha Moses yn nesaf ar yr hyn oedd y Duw a fuasai yn breswylfa iddynt hwy, ei bobl, ynddo ei hun: “Ti hefyd wyt Dduw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb;” adn. 2. Traetha yr un syniadau wrth fendithio y llwythau cyn ei farw (Deut. xxxiii. 27), lle y dywed: “Dy noddfa yw Duw tragywyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragywyddol.” Wedi hyny daw at fater ei weddi — y cyflwr yr oedd y genedl ynddo ar y pryd o dan anfoddlonrwydd Duw. Cyflwyna ei hun a hwythau i dosturiaethau grasol Duw, gan erfyn am iddo etto eu cofio yn drugarog, a’u hadferu i’w ffafr. Er mai ar yr achlysur neillduol hwnw y cyfansoddwyd y salm, y mae ei haddysg a’i hathrawiaeth mor briodol a pherthynasol i bawb oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.