1Bendithia ’r Arglwydd, f’ enaid i.
O Dduw! fy Nuw — tra mawr wyt ti:
Mawrhydi pur, a harddwch llawn
A wisgi ’n ogoneddus iawn.
2’R hwn wisga ’r gwawl yn fantell wen,
A daena ’r nefoedd megys llen;
3Tylathau ’i ystafellau i lawr
A esyd yn y dyfroedd mawr.
Gwna y cymmylau yn y nef
Yn gerbyd breiniol iddo ef;
A rhodia fry ar rwysgfawr hynt,
Ar edyn yr ystormus wynt.
4’N ysbrydion gwna ’i genhadau glân,
A’i weinidogion yn fflam dân;
5Gosododd seiliau ’r ddaear syth,
Yn sicr, fel na syflont byth.
6Tödd hi â’r gorddyfnderau maith,
Fel gwisg am dani ’n drefnus waith;
Y dyfroedd safent fry uwch law
Copäu ’r mynyddoedd uchel draw.
Rhan II.M. H.
7Duw, gan dy gerydd, heb ymdroi,
A sŵn dy daran, gwnaethant ffoi;
8’Lawr i’r dyffrynoedd aent yn syth,
I’r lle a seiliaist iddynt byth.
9Gosodaist derfyn iddynt hwy,
Fel na dd’ont dros y ddaear mwy;
10Ffynnonau i’r dyffrynoedd änt,
A cherdded rhwng y bryniau wnant.
11Diodant hwy holl filod pawr:
Asynod gwylltion anial lawr,
A dorant yn eu hangen tỳn,
Eu syched yn y ffrydiau hyn.
12Adar yr awyr, yn ddi‐fraw,
Pabellant hwythau ger eu llaw,
Gan leisio ’u cân yn beraidd iawn
Rhwng cangau ’r gwŷdd o foreu i nawn.
13Dyfrhau y bryniau mae efe
O’i ystafellau yn y ne’;
O ffrwyth ei râd weithredoedd da,
Digoni ’r ddaear fawr a wna.
14Gwellt i’r ’nifeiliaid rydd bob un,
A llysiau at wasanaeth dyn;
Y ddaear a ddwg fara iach,
I dori angen mawr a bach;
15A gwin, ’r hwn lona galon dyn,
Ac olew, i loewi ’i wyneb cun,
A bara, i nerthu ’i galon laith,
Yn ystod ei ddaearol daith.
Rhan III.M. H.
16Holl gedrwydd Duw ’n llawn sugn sydd,
’Rhai blanodd ef ar Liban rydd,
17Lle nytha ’r adar mân yn llu,
A lle y ca ’r ciconia dŷ.
18Mynyddoedd uchel roddant nawdd
I’r geifr — rhai ddringant yno ’n hawdd;
A chestyll certh y creigiau ban
Yn noddfa i’r cwningod gwan.
19Y lleuad ddisglaer a wnaeth ef
I gadw ’i misoedd yn y nef;
A’r haul a edwyn yn dda iawn
Le ei fachludiad hwyr brydnawn.
20Gwna d’wllwch du, a nos ddi‐lon —
Pob bwystfil coed ymlusga ’n hon:
21Eu bwyd gan Dduw, dan ruo, ’n awr
A gais cenawon llewod mawr.
22Pan godo haul, ymgasglu wnant,
I lechu yn eu ffauau ânt;
23Ac allan yr ä dyn i’w waith,
Hyd hwyr y dydd drwy oriau maith.
Rhan IV.M. H.
24O! mor liosog a diri’,
O Arglwydd! yw ’th weithredoedd di:
Mewn doethder gwnaethost hwy ’n ddigoll,
O’th gyfoeth llawn yw ’r ddaear oll.
25Ac felly mae ’r môr llydan gwyrdd,
Lle mae ymlusgiaid lawer myrdd;
Bwystfilod mân, a mawrion rai,
Yn nofio yn ei ddwfr yn chwai.
26Yno yr ä y llongau ’n llu,
Ac yno mae ’r lefiathan cry’,
’R hwn luniaist ti i chwareu ’n llon,
Yn ngorddyfnderau maith y don.
27Disgwyliant wrthyt ti i gyd,
Am roddi iddynt fwyd mewn pryd;
28Agori ’th law haelionus iawn —
Diwelli ’u hangen oll yn llawn.
29Ti guddi ’th wyneb, hwythau ’n awr
Drallodir, wesgir oll i lawr;
Ymaith y dygi ’u hanadl wan,
I’w llwch dychwelant yn y fan.
Rhan V.M. H.
30Pan roddych di dy Ysbryd ’lawr
Y creir pob rhyw, yn fach a mawr;
Ac yna gwedd y ddaear hon
A adnewyddir ger dy fron.
31Gogoniant Duw ’n dragywydd fydd,
Tra haul a lloer, a nos a dydd;
Yn ei weithredoedd llawenhâ,
Gwnaeth ef bob peth yn ddoeth a da
32Fe edrych ar y ddaear hon,
A hi a gryna ger ei fron;
Fe gyffwrdd â’r mynyddoedd draw,
A hwy a fygant dan ei law.
33Canaf i’r Arglwydd tra b’wyf byw:
Tra meddaf fod, mi gana’ i’m Duw.
34Myfyrio am dano ’n felus fydd,
Trwy gydol oriau ’r nos a’r dydd.
35Yr anwir oll, darfyddant hwy,
Na fydded annuwiolion mwy.
F’ enaid, bendithia di dy Dduw,
Moliennwch ef, holl deulu ’r byw.
Nodiadau.
Salm Dafydd, yn ol pob tebygolrwydd, yw hon etto, er nad yw ei enw wrthi. Dechreua a dybena fel y dechreua ac y dybena y salm o’r blaen, drwy alw ar ei enaid i fendithio yr Arglwydd. Gesyd yma o flaen ei enaid fawredd a gogoniant Duw yn ei weithredoedd, gan ddechreu gyda’r goleuni, cyntafanedig creadigaeth Duw; yna yr elfenau, y cymmylau; yna, disgyna i’r ddaear, y môr, y mynyddoedd, y dyffrynoedd, y ffynnonau, yr anifeiliaid, bwystfilod, ymlusgiaid, yr adar, y môr, a’r pysgod; esgyna i’r nefoedd drachefn at yr haul a’r lleuad, & c., ac ymhyfryda yn yr amlygiadau o fawredd a gogoniant anfeidrol Duw a wêl efe yn y pethau hyn oll. Yr hyn a lanwai ei enaid â syndod a chlodforedd yn benaf dim oedd, fod Creawdwr yr holl weithredoedd mawrion hyn yn Dduw cyfammodol iddo ef: “O Arglwydd fy Nuw! tra mawr ydwyt,” medd ef:— ‘Ond er mor dra mawr, yr ydwyt yn Dduw i mi, yn noddfa i’m diogelu, a’th allu anfeidrol i’m cynnal a’m cadw, dy ddoethineb i’m dysgu a’m cyfarwyddo; ïe, fel fy Nuw cyfammodol, y mae dy holl gyflawnder anfeidrol a thragwyddol yn eiddo i mi!’
Am y salm hon, dywed yr Esgob Lowth ei bod “yn gosod allan ogoniant y Creawdwr oddi wrth ddoethineb, prydferthwch, ac amrywioldeb ei weithredoedd yn ardderchog iawn. Gorwycha y bardd y testyn ardderchog hwn â’r iaith fwyaf ysblenydd, â’r drychfeddyliau godidocaf a phrydferthaf, a’r un pryd y mwyaf hapus a phriodol i’r testyn sydd ddichonadwy. Nid oes dim ar gael, na hen na diweddar, ac yn wir nis gellir dychymygu byth ddim mwy perffaith na’r gân hon, gyda golwg ar ei pherffeithion cynnhenid, ac fel enghraifft o’r fath yma ar gyfansoddiad.”
Athrawiaeth crefydd natur, fel y dywedwn, sydd yn y salm odidog hon drwyddi. Aberth o addoliad a mawl i’r Creawdwr yn cael ei offrymu iddo ar allor ei weithredoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.