1Nid i ni — ond i dy enw
Mawr, O Dduw! ’r gogoniant boed,
Er mwyn dy drugaredd dirion,
A’th wirionedd sydd erioed:
2Pa’m y d’wedai y cenhedloedd,
P’le yn awr y mae eu Duw?
3Ein Duw ni sydd yn y nefoedd,
Arglwydd nef a daear yw.
4Eu delwau hwy ’ynt aur ac arian,
Gwaith celfyddyd dwylaw dyn;
5Y mae genau iddynt, etto
Ni lefarant air — dim un:
Llygaid sy iddynt, ond ni welant;
6Clustiau, ond ni chlywant ddim!
Ffroenau hefyd, ond ni ’roglant,
Druain dduwiau gwâg, dirym!
7Dwylaw feddant, ond ni theimlant;
Traed sydd ganddynt, ond rhy wan
Ydynt hwy i allu sefyll,
Nac i symmud cam o’r fan;
Ac ni leisiant chwaith â’u gyddfau,
8Ac fel hwynt mae’r rhai a’u gwnant,
A phob un obeithio ynddynt
Siomedigaeth chwerw gânt.
Rhan II.8.7.
9O! tŷ Israel, ymddiriedwch
Chwi oll yn yr Arglwydd Dduw,
10A thŷ Aaron, pwyswch chwithau
Arno — eich porth a’ch tarian yw;
11Y rhai ofnwch enw’r Arglwydd,
Ymddiriedwch ynddo ef,
Canys ef ei hun yn ddiau
Yw eich porth a’ch tarian gref.
12Duw a’n cofiodd mewn tiriondeb,
A’n bendithio ni a wna;
Wrth dŷ Israel, a thŷ Aaron,
’N ol ei arfer, trugarhâ;
13Ef fendithia bawb a’i hofnant,
Oll, yn fychain ac yn fawr,
14Ac a’u hychwanega fwyfwy,
Hwy, a’u plant, fel gwlith y wawr.
15Bendigedig gan yr Arglwydd,
’R hwn a wnaeth y ddae’r a’r nef,
Ydych chwi, fe orphwys arnoch
Ei drugaredd hyfryd ef:
16Y nefoedd ydynt eiddo’r Arglwydd,
Ond y ddaear roddes ef
I blant dynion i’w phreswylio,
A’i glodfori ar lafar lef.
17Meirw’r beddau ni foliannant
Enw’r Arglwydd, na’r rhai sy’
I ’stafellau’r bedd yn disgyn
Yn y dwfn ddistawrwydd du;
18Ond nyni, y byw, fendithiwn
Oll ei enw mawr dilyth —
O hyn allan yn dragywydd,
Moli wnawn heb dewi byth.
Nodiadau.
Y mae llawer iawn o holi ac ymofyn wedi bod, gan bwy, pa bryd, ac ar ba achlysur y cyfansoddwyd y salm hon; a llawer o bersonau, a llawer o brydiau, ac o achlysuron, wedi eu crybwyll, gan feirniaid, i’w phriodoli iddynt; ond hollol ddifudd ac ofer fu y drafferth. Gellir casglu mai ar ryw dymmor adfydus ar bobl Dduw y cyfansoddwyd hi, pan oedd y Cenhedloedd eilunaddolgar yn gorfoleddu yn eu herbyn hwy a’u Duw; a hwythau, oddi ar eiddigedd dros ogoniant enw eu Duw, yn appelio ato, ac yn erfyn arno, i ddangos ei hun o’u plaid, a chau geneuau eu gelynion.
Yma cydnabyddir hawl yr Iehofah yn unig i dderbyn gogoniant a mawl. “Nid i ni, O Arglwydd! nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant,” medd y Salmydd. Nid oes dim y mae y galon lygredig yn fwy awyddus am dano na’r gogoniant, na dim mor ammhriodol nac yn fwy niweidiol iddi. Y mae y galon sydd yn llefaru yma fel wedi ei llwyr ddiddyfnu oddi wrth y trachwant ffol hwn, ac yn gwresog gyflwyno y gogoniant i’r hwn yn unig y perthyna iddo. “Nid i ni, ond i’th enw dy hun” — “er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.” ‘Pa ragoriaeth bynag sydd yn perthyn i ni,’ fel pe dywedasai, ‘i’th drugaredd a’th raslonrwydd di y mae y cwbl i’w briodoli; gan hyny, i ti, ac nid i ni, y mae yr holl ogoniant am dano yn ddyledus.’
“Nid i ni” — ac nid i eilunod y Cenhedloedd chwaith yn sicr y mae’r gogoniant yn ddyledus. Ar ol eu crybwyll hwy, tywallta y Salmydd ffrwd o watwargerdd a dirmyg ar yr eilunod hyny, eu gwneuthurwyr, a’u haddolwyr, fel teyrnged ddyledus iddynt, yn hytrach na gogoniant. Yna geilw ar ffyddloniaid Israel drachefn a thrachefn i ymddiried yn Arglwydd eu Duw, fel eu porth a’u tarian, yr hwn oedd yn eu hamddiffyn, yn eu cofio, ac yn eu bendithio; ac yn eu cymmhell i’w fendithio a’i glodfori, gan ddwyn ar gof ddistawrwydd y bedd, lle nad oes neb yn moliannu yr Arglwydd. Defnyddia y Salmydd yr ystyriaeth hon am y meirw, dybiwn, fel dadl ger bron Duw, am iddo amddiffyn ac arbed ei bobl oedd yn ei addoli a’i foliannu ef; canys os darfyddai am danynt hwy, na buasai neb i gadw coffadwriaeth am ei enw a’i fawl ar y ddaear, gan fod yr holl genhedloedd ereill yn addoli delwau o aur ac arian, gwaith eu dwylaw eu hunain.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.