1Rho’wch fawl i’n Harglwydd glân,
Mewn newydd gân hyd nef;
Gorchfygodd ei elynion llym
A grym deheulaw gref.
2Hysbysu i ni a wnaeth
Ei iachawdwriaeth fawr;
Dadguddiodd ei gyfiawnder pur
I euog deulu ’r llawr.
3Fe gofia ammod hedd
Ei hen drugaredd wiw;
Caiff holl genhedloedd daear gaeth
Wel’d iachawdwriaeth Duw.
4-6Cydgenwch fawl cyttûn
Ar delyn felus dant;
A moeswch salm ar lafar lef
I’w enw ef — y Sant.
7Cyduned tonau ’r môr
Eu mawl i’n Iôr o hyd;
A rhoed y ddaear fawr, a’i phlant,
Ogoniant iddo i gyd.
8Llifeiriaint oddi draw
Ddyrchafo ’u dwylaw ’n hy’;
Adseinied clod yn uchel floedd
O’r holl fynyddoedd fry.
9O flaen Iehofah sy
Yn d’od i farnu ’r byd:
Efe a esyd gyfiawn raith,
Yn ol eu gwaith i gyd.
Nodiadau.
Y gair salm yn unig a osodir fel teitl i hon, heb un hysbysiad pwy ydyw ei hawdwr. I Dafydd y rhoddid hi gan yr Iuddewon a’r Groegwyr gynt; ac nid oes neb, ar a wyddom, yn ceisio ei dwyn hi oddi arno. Y mae llawer o ddelw y tair salm o’r blaen arni, ac y mae amryw o ymadroddion Salm xcvi. ynddi.
Yr oedd Dafydd, pan y cyfansoddai y salmau hyn, megys wedi ei lyngcu i fyny gan ysbryd ac awyddfryd gwresoglawn i foliannu yr Arglwydd ei hun, ac i annog pawb a phob peth i wneyd yr un modd; a hyny yn y rhagolygon ar ddyddiau y Messiah, pan y dadguddid gras ac iachawdwriaeth Duw trwy’r efengyl yn ngolwg yr holl genhedloedd.
Y mae y “dirgelwch,” fel y geilw Paul ef (Eph. iii. 3), o alwedigaeth y Cenhedloedd i fod yn gydetifeddion, ac yn gydgorph, ac yn gydgyfranogion â hâd Abraham o addewid Duw yn Nghrist trwy’r efengyl, yn nawsio allan drachefn a thrachefn yn salmau olaf Dafydd. Ambell belydryn disglaer o hono yn tori allan yn awr ac eilwaith, a daflai oleuni gobaith i dir y tywyllwch a chysgod angeu yr oedd y Cenhedloedd yn eistedd ynddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.