Salmau 5 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM V.7.6.I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.

1O Arglwydd! clyw fy ngweddi,

Ac ystyr wrthwy’n awr,

A deall fy myfyrdod,

2-3Fy Nuw, fy Mrenin Mawr;

Yn foreu galwaf arnat,

Yn foreu clywi’m llais,

I fyny edrychaf atat,

Cyflawna di fy nghais.

4Nid wyt yn ewyllysio

Anwiredd brwnt, difri,

Anwiredd a drygioni

Ni thrigant gyda thi;

5Ynfydion — hwy ni safant

Yn d’ olwg funyd awr,

Caseaist holl weithredwyr

Drygioni, fach a mawr.

6Dyfethi y rhai celwyddog

Oddi ar y ddaear hon,

Gŵr gwaedlyd a thwyllodrus

Sy’n ffiaidd ger dy fron:

7Yn amlder dy drugaredd

D’of finnau â mawl a chân,

Mewn ofn a pharch addolaf

Yn dy gynteddau glân.

8Yn dy gyfiawnder beunydd,

O Arglwydd! arwain fi,

O achos fy ngelynion

Sy’n aml iawn eu rhi’;

9Uniondeb yn eu genau

Nid oes — eu ceudod sydd

Yn llawn o anwireddau

A dichell nos a dydd.

10Yr Arglwydd, mewn cyfiawnder,

A’u llwyr ddinystria hwynt,

Yn amlder eu camweddau

Fe’u gyrir gyda’r gwynt:

Oddi wrth eu cynghor syrthiant

Yn eu gwrthryfel chwith

Yn erbyn y Goruchaf,

A hwy a ballant byth.

11Ond llawenhaed y rheiny

Obeithiant ynot, Iôn,

A llafar ganant beunydd

Dy fawl ar felus dôn;

Am it’ orchuddio drostynt

A’th aden ddwyfol, glyd,

I’r sawl a garant d’enw

Gorfoledd fydd o hyd.

12Ti a fendithi’r cyfiawn,

O Arglwydd! yn ddiau,

Dy gariad megys tarian

Fydd iddo i barhau;

Dy olwg gedwi arno

Yn wastad, nos a dydd,

A than dy aden dawel

Diogel iawn a fydd.

Nodiadau.

Fel llawer ereill o salmau Dafydd, gweddi yn amser trallod yw y salm hon: ond pa drallod yn ei fywyd trallodus a fu yn achlysur ei chyfansoddiad, rhy anhawdd penderfynu fe ddichon. Pa drallod bynag, a pha bryd bynag y goddiweddid ef gan drallod, i’r un man yr äi efe i ddyweyd ei gŵyn, ac i geisio ymwared; yr oedd yn wastad yn cydnabod llaw Duw yn ei drallodau a’i waredigaethau. Y mae efe yma yn dadgan ei ffydd mewn gweddi, ac yn Nuw fel gwrandawr gweddi; ac oddi ar hyny, ei benderfyniad i barhau yn yr ymarferiad o weddïo Duw. Cydnabydda gyfiawnder a sancteiddrwydd Duw, fel y mae yn casau drygioni, a gweithredwyr anwiredd — na thrig anwiredd gydag ef, na’r rhai a wnant anwiredd yn ei olwg; ac am hyny, adduneda ei foliannu ef. Gweddïa drachefn am yr arweiniad a’r nawdd dwyfol, i’w ddiogelu rhag malais a chynllwynion ei elynion; a phrophwyda eu cwymp a’u dinystr hwy; a therfyna mewn erfyniau a diolchiadau dros yr holl ffyddloniaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help