1Mi ganaf am farn a thrugaredd:
O Arglwydd! i ti canu wnaf.
2Ar berffaith ffordd byddaf ddeallus,
Pa bryd deui ataf, fy Naf?
Mi rodia ’n mherffeithrwydd fy nghalon
O fewn fy nhŷ ’n ffyddlawn o hyd,
3Ni ddodaf ddim anwir i’w hoffi,
O flaen fy ngolygon un pryd.
Câs genyf fi waith y rhai cildyn,
A hwnw ni lŷn wrthyf fi:
4Y cyndyn ei galon a gilia
Oddi wrthyf yn isel ei fri:
Ni fynaf un amser gydnabod
Yr adyn drygionus ei fryd:
5’R hwn ddirgel enllibio ’i gymmydog,
A doraf fi ymaith o’r byd.
Yr uchel a’r ffrom ei olygon,
A’r coegfalch ei galon, yn wir,
Ni allaf eu dioddef:
6mae ’m llygaid
Ar gywir ffyddloniaid y tir:
Y rhei’ny gânt drigo ’n fy mhabell:
A’r hwn rodio ’n berffaith ei fryd
A fynaf fi gael i’m gwasanaeth,
Caiff hwnw fy hyder o hyd.
7Ni thrig yn fy nhŷ ’r un a wnelo
Ddichellwaith i dwyllo mewn dig;
Na ’r un ddwedo gelwydd hygoelus,
Hwn byth yn fy ngolwg ni thrig:
8Yn foreu y toraf fi ymaith
Yr holl annuwiolion o’r tir;
Diwreiddiaf weithredwyr anwiredd
O ddinas yr Arglwydd cyn hir.
Nodiadau.
Y mae enw Dafydd wrth y salm hon, a llais Dafydd yn amlwg i’w adnabod ynddi. Cyfansoddodd hi, mae’n debyg, yn fuan wedi iddo sefydlu eisteddle ei lywodraeth yn Ierusalem, yn y cyfwng rhwng yr amser yr aeth i gyrchu yr arch ato i Ierusalem o Ciriath‐iearim, pan y tarawyd Uzza am estyn ei law i ddal yr arch, wrth i’r ychain oedd yn ei dwyn ei hysgwyd, ac y trowyd hi i mewn i dŷ Obededom, a’r amser y cyrchodd efe hi oddi yno i’r babell a barotoisai efe iddi ger llaw ei dŷ ei hun, ar fynydd Seion: gwel 2 Sam vi. Bu ysbaid o dri mis rhwng y ddau dro. Dybygaf fi fod Dafydd yn cyfeirio at yr amgylchiad gofidus yn mherthynas i Uzza yn ngeiriau cyntaf y salm. “Canaf am drugaredd a barn” — gan gydnabod cyfiawnder Duw yn ei waith yn taraw Uzza â barn am ei ryfyg, a’i drugaredd yn ei arbed ef a’i weision ar yr amgylchiad hwnw, pan yr oeddynt wedi troseddu y gyfraith drwy osod yr arch i’w dwyn gan ychain, yn lle ar ysgwyddau y Lefiaid. Yr oedd yn awyddus uwch law pob peth am gael Duw a’i arch ato, i drigo ger llaw ei dŷ. “Pa bryd y deui ataf?” medd efe. Adduneda gadw ei dŷ yn lân i’w dderbyn — y rhodiai yn mherffeithrwydd ei galon; na ddioddefai ddim anwiredd yn ei luest; y gofalai am weinyddu holl achosion ei dŷ ac achosion ei lywodraeth mewn cyfiawnder, a chadw llaw drom ar ddynion celwyddog, maleisus, a drygionus, & c., modd y gallasai efe, yr hwn a gâr gyfiawnder a barn, sefydlu ei orseddfaingc (yr arch a’r drugareddfa) yn ymyl ei orseddfaingc ef (Dafydd). Yr oedd Dafydd wedi gweled cymmaint o ddrygedd ac ysgelerder dynion gwenieithus a chelwyddog, a chynghorwyr maleisus ac anwir yn llys Saul, ac wedi dioddef cymmaint oddi wrthynt ei hun, fel y penderfynai na chai neb o’r cyfryw ddynion drigo yn ei dŷ, nac yn ei olwg ef; ond y mynai eu tori ymaith o ddinas yr Arglwydd, sef Ierusalem, i’r hon yr oedd efe yn awr yn gwahodd Iehofah ato, i drigo. Ni rydd y Duw sanctaidd a glân ei bresennoldeb mewn eglwys, na thŷ, na chalon halogedig ac aflan. Y mae pob anwiredd ac aflendid yn ei yru ef yn mhell oddi wrth ei gyssegr: Esec. viii. 6.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.