1Arglwydd! gwaeddais o ddyfnderau
Eitha’r ddaear tua’r nef;
2Gostwng glust dosturiol, ystyr
Wrth fy nhrom ddrylliedig lef:
3Os ar anwireddau creffi,
Pwy a ddeil yr olwg hon?
F’enaid euog a lewygai
Yn dragwyddol ger dy fron.
4Ond mae gyda thi faddeuant
Fel y’th ofner — gâd i mi
Brofi y maddeuant hwnw,
Minnau a’th foliannaf di.
5Disgwyl, f’enaid, wrth yr Arglwydd,
Craffa’th olwg arno ef;
Cymmer afael gadarn, sicr,
Yn ei hen addewid gref.
6Mae fy enaid wrtho ’n disgwyl
Fel y gwylwyr am y wawr;
Ië’n fwy, drwy’r hirnos dywell
Sylla tua’r nefoedd fawr.
7Israel, disgwyl dithau wrtho,
Mae ’i drugaredd fel y môr;
Disgwyl wrtho yn dragywydd —
Pwysa ar dy gadarn Iôr.
8Ef a’th wared o gadwynau
D’anwireddau fawr a mân:
Ceni dithau ’n hyfryd iddo
Am ei gariad newydd gân.
Nodiadau.
“Y Salm fendigedig” y galwai un y salm hon, a salm fendithiol i, a bendigedig gan, filoedd o eneidiau yn ddiau a fu hi, ac ydyw, ac a fydd hi etto. Nid priodol fyddai dywedyd ei bod yn fwy ysbrydoledig; ond gellir dyweyd ei bod yn fwy ysbrydol, na’r salmau ereill yn y dosbarth hwn; canys helynt ysbrydol enaid dan argyhoeddiad o bechod sydd yma yn unig, heb un gair am drallodion amgylchiadol oddi wrth elynion oddi allan, fel yn y lleill. Un o’r saith ‘Salmau Edifeiriol,’ fel eu gelwir, ydyw. Nis gellir penderfynu i sicrwydd pwy a’i cyfansoddodd: llais tebyg i lais Dafydd a glywir ynddi. Cyfyd y llais o ryw ddyfnder mawr — “o’r pwll isaf;” pwll llygredigaeth ac euogrwydd pechod, lle y mae yr enaid sydd yn llefain yn suddo dan argyhoeddiad o ddrwg pechod, a theimlad byw o’i euogrwydd yn ei gydwybod. Yn y wasgfa hono y mae efe yn llefain am drugaredd, a’r drugaredd benaf o’r holl drugareddau; sef, maddeuant pechod, a hyny oddi ar y wybyddiaeth fod trugareddau a maddeuadau gyda Duw trwy y dadguddiad a wnaethai o hono ei hun yn ei air. Gyda bod ei lef am faddeuant yn dyrchafu o’r dyfnder at Dduw, y mae yr enaid yn cael ei ddyrchafu gan Dduw trwy roddi iddo brofiad o’r maddeuant hwnw; ac mewn canlyniad, y mae efe yn traethu ei obaith a’i hyder yn yr Arglwydd, ac yn ei Air, ac yn annog Israel i wneyd yr un peth, oddi ar y ffaith fod “trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef,” ac y gwareda efe ei eiddo oddi wrth eu holl anwireddau. Y mae y salm drwyddi yn llawn o efengyl — ac felly yn llawn o Grist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.