1Cenwch i’r Arglwydd newydd gân,
Holl lwythau daear lawr;
2Bendigwch, a chyhoeddwch glod
Ei sanctaidd enw mawr.
Cyhoeddwch bawb o ddydd i ddydd
Ei iachawdwriaeth ef,
3A’i fawr ogoniant ef yn mhlith
Y bobloedd dan y nef.
4Can’s mawr a chanmoladwy iawn
Ydyw ein Harglwydd glân;
Ofnadwy yw efe goruwch
’R holl dduwiau mudion mân.
5Can’s duwiau ’r bobloedd nid y’nt hwy
Ond delwau gwâg i gyd;
Ond ein Duw ni yw ’r hwn a wnaeth
Y nefoedd fawr, a’r byd.
6Gogoniant pur a harddwch sydd
O flaen ei wyneb e’;
Nerth a hyfrydwch byth heb drai
Sydd yn ei gyssegr le.
Rhan II.M. C.
7Tylwythau ’r bobl, i’r Arglwydd rhowch
Ogoniant, clod, a nerth:
8De’wch i’w gynteddau, dygwch hedd
Offrymau mawr eu gwerth.
9Addolwch ef yn sanctaidd dŷ
Ei breswylfa îs y nef,
Ac ofned yr holl ddaear lawr
Ger bron ei fawredd ef.
10Iehofah yn teyrnasu sy’ —
Cyhoeddwch hyny ’n llawn;
Efe a sicrha y byd,
Ac ef a’i barna ’n iawn.
11Y nefoedd uchod, llawenhäed;
Caned y ddaear hon;
A rhued yntau, y môr mawr,
Ei foliant â phob ton.
12A llawenhaed y maes, a’r oll
Sydd ynddo, yn gyttûn;
Cydganed prenau ’r coed eu cerdd
Yn hyfryd bob yr un.
13O flaen Iehofah, can’s mae ’n dod —
Yn d’od i farnu ’r byd;
Mewn gwir ac iawnder barna ef
Y bobloedd oll ynghyd.
Nodiadau.
Er nad oes i’r salm hon, mwy nag i’r salmau blaenorol, deitl yn rhoi enw ei hawdwr, y mae yn gwbl sicr mai salm Dafydd ydyw; canys yr ydym yn ei chael yn rhan o’r salm a roddodd efe yn llaw Asaph a’i frodyr i foliannu yr Arglwydd, “pan ddygasant hwy arch Duw i mewn, ac y gosodasant hi yn nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi;” 1 Cron. xvi. 1. O adn. 23 hyd adn. 33 yn y bennod hono yn Llyfr Cyntaf Cronicl, ceir y salm hon gydag ychydig o wahaniaeth.
Fel y salm o’r blaen, gelwir yma ar yr holl ddaear — yr holl bobl — i foliannu yr Arglwydd ar gyfrif ei fawrhydi anfeidrol goruwch yr holl dduwiau, ei weithredoedd mawrion a’i oruchwyliaethau priodol. Rhoddir yma rai awgrymiadau am alwad y Cenhedloedd. Dyfodiad y Messïah, a gogoniant ei deyrnas a’i frenhiniaeth ef yw testyn a sylwedd y gân newydd hon. O’i flaen ef, yn ei ddyfodiad i farnu y ddaear, nid ei ddyfodiad i farn y dydd olaf, ond ei ddyfodiad cyntaf i osod barn ar y ddaear, fel y dywed y prophwyd Esaiah (pen. xlii. 2) drwy osod i fyny deyrnas ei ras arni — o’i flaen ef yn ei ddyfodiad i’r byd, meddwn, y gelwir ar y nefoedd i lawenhau, y ddaear i orfoleddu, y môr a’i gyflawnder i ruo, y maes a’r hyn oll sydd ynddo, a phrenau y coed i ganu. Nid rhyfedd y gelwir am “gân newydd” o’r fath yma, fel y gwneir yn nechreu y salm, ar y fath destyn, pan y mae Iehofah yn myned i wneyd a dadguddio peth newydd ar y ddaear, a hwnw y peth mwyaf a wnaeth ac a ddadguddiodd efe erioed yn ei lywodraeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.