1Duw! cofia Dafydd a holl bwys
Ei ofal dwys a’i bryder llawn;
2Fel tyngodd i Dduw Iago o’i fodd,
Ac yr addunodd lawer iawn;
3Gan dd’weyd, Ni ddof i gell fy nhŷ,
Ni ddringaf ar fy ngwely clyd,
4-5Nes caffwyf le, O Dduw! i ti,
I drigo gyda mi o hyd.
Ni roddaf gwsg i’m llygaid hyn,
Na chyntyn i’m hamrantau chwaith,
Nes penu ar y lle, a chael
Dechreuad gafael ar y gwaith.
6’Ni glywsom sôn (mae hyn mewn co’)
Mai o fewn bro Ephratah wiw,
Yn maes y coed, ger llaw i’r dre’,
Mae dewis le Iehofah ’n Duw.
Rhan II.7.6.
7Ynghyd yr awn i’w bebyll,
Ymgrymwn ger ei fron,
8O cyfod, Arglwydd! brysia,
Tyr’d i’th orphwysfa hon;
Cartrefed arch dy fawredd
Di yma yn ein plith,
Rhwng esgyll ei cherubiaid,
O! aros, aros byth.
9D’ offeiriaid â chyfiawnder,
A wisga oll yn lân,
A’th saint fo’n gorfoleddu
Mewn hyfryd fawl a chân;
10Er mwyn dy lŵ i Dafydd,
O Arglwydd! na thro di
Dy wyneb oddiwrth d’Eneiniog,
Ein brenin enwog ni.
Rhan III.7.6.
11Yr Arglwydd mewn gwirionedd
I Dafydd tyngu wnai,
Ni thry ef oddi wrth hyny,
Ei air wna gwblhau;
O ffrwyth dy gorph gosodaf
Wr ar d’orseddfaingc wen,
I eistedd mewn gogoniant,
A’i goron ar ei ben.
12Os cadw wna dy feibion
Fy ammod i, a’m gair,
Y rhai a ddysgwyf iddynt,
Hwynthwy a gadarnhair;
Eu meibion hwythau hefyd,
Mewn llawn ddiogel hedd,
Gânt eistedd yn dragywydd,
Ar dy frenhinol sedd.
13Can’s Duw ddewisodd Seion;
Ac a’i chwennychodd hi,
Yn drigfa iddo ’i hunan,
Byth yn ein canol ni:
14Wel, dyma fy ngorphwysfa ’n
Dragywydd, medd efe,
Ac yma gwnaf fy nghartref —
Fy hoff ddewisol le.
15Bendithiaf fi ei lluniaeth,
Ac ni bydd mwyach ball
Ar fara ei rhai tlodion —
Mi a’u porthaf hwy’n ddiwall;
16A gwisgaf ei hoffeiriaid
Ag iachawdwriaeth lon,
A’i saint a orfoleddant,
Dan ganu ger fy mron.
17Mi baraf i gorn Dafydd
Flaguro ’n hyfryd iawn;
Darperais i’m Heneiniog
Lamp oleu ddisglaer lawn:
18A ch’wilydd y gorchuddiaf
Ei holl gaseion syth,
A’i goron arno yntau
Flodeua ’n enwog byth.
Nodiadau.
Tybia esbonwyr yn gyffredin mai Solomon a gyfansoddodd y salm hon, ar achlysur cyssegriad y deml. Y mae ynddi rai ymadroddion, megys, “Cyfod, Arglwydd, i’th orphwysfa; ti, ac arch dy gadernid,” a ddefnyddir ganddo yn ei weddi ar yr achlysur hwnw; a dichon ddarfod iddo eu rhoddi i’r cantorion i’w chanu ar ol ei weddi. Y mae efe yn dwyn i gôf ger bron Duw yn ei gân hon, yn gyntaf, dduwioldeb diffuant ei dad Dafydd — yn neillduol, ei fawr ofal am dŷ ac addoliad Duw; ac fel yr oedd efe wedi addunedu a phenderfynu adeiladu teml i Dduw, ond fel yr attaliwyd ef gan Dduw ei hun drwy’r prophwyd Nathan. Yn ail, y mae yn adgofio i Dduw yr addewidion a wnaethai efe i Dafydd:— tyngodd i Dafydd y buasai efe yn adeiladu tŷ i Dduw, a thyngodd Duw y buasai efe yn adeiladu tŷ i Dafydd. Yn awr, yr oedd llŵ Dafydd i Dduw wedi ei gyflawni gan ei fab ef; a llŵ Duw i Dafydd yn cael ei gyflawni i’w dŷ yntau, yn nghadarnhâd ei orseddfaingc, dan Solomon. Adgoffir addewidion grasol Duw i Dafydd a’i dŷ gyda gwresog ddiolchgarwch; ac edrychir yn mlaen yn ddiau at addewid fawr y cyfammod a dyngasai Duw i Dafydd; sef, cyfodiad y Messiah i eistedd ar ei orseddfaingc yn dragwyddol, i deyrnasu arni yn ei ogoniant Cyfryngol, a dygiad ei holl elynion i gywilydd a dinystr!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.