Salmau 45 - Welsh Metrical Psalms by William Rees 1875

SALM XLV.7.4.I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Corah, Maschil, Cân cariadau.MATER Y GAN.

1Traetha ’nghalon bethau da

Anghyffredin,

Berwi allan gân a wna —

Cân i’r Brenin;

Mae fy nhafod yn y swydd,

I’w datganu,

Megys pin ’sgrifenydd rhwydd,

I’w ryfeddu.

GOGONIANT Y BRENIN.

8.7.

2Tecach wyt na meibion dynion,

Fe dywalltwyd rhin a gras

Ar dy wefus — mae dy eiriau ’n

Well na’r gwin pereiddia’i flas;

Herwydd hyny Duw’th fendithiodd

A phob dwyfol ddawn ddilyth,

I deyrnasu mewn gogoniant

Ar dy orsedd gadarn byth.

EIDDUNED AR Y BRENIN.

Ymdaith Gwŷr Harlech.

3Gwisg dy gleddyf llym daufiniog

Ar dy glun, O Gadarn D’wysog!

A dynoetha ’th fraich alluog —

Dangos d’ allu mawr:

4Marchog mewn grymusder,

Congcra ar dy gyfer,

Ffrwyth dy gledd

Fydd gras a hedd,

Gwirionedd a chyfiawnder;

A’th ddeheulaw ganmoladwy

Ddysg it’ bethau mawr ofnadwy:—

Bydd dy enw yn glodadwy

Trwy y nef a’r llawr.

BUDDUGOLIAETHAU Y BRENIN.

5Pobloedd lawer o bob llwythau

Syrthiant danat yn fyrddiynau,

Pan y glyno ’th lymion saethau

Yn eu c’lonau hwy;

6Dy orsedd di, O Arglwydd!

A bery yn dragywydd;

Uniondeb yw,

Egwyddor fyw,

’Th deyrnwialen wiw, o herwydd

7Ceraist iawnder: ond drygioni

A gaseaist:— ac am hyny,

Duw’th eneiniodd i deyrnasu

Mewn gogoniant mwy.

CLOD Y BRENIN.

8.7.

8Perarogli mae dy wisgoedd

Yn ddymunol hyfryd iawn,

Gan yr aloes, myrr, a chasia,

Arwydd o’th rinweddol ddawn;

Allan o’r palasau ifori,

Mawr a fydd y llawenhau —

9Merched y brenhinoedd ddeuant

I dy garu a’th fawrhau.

Y FRENHINES.

8.7.

Sai’r frenhines ar dy ddeheu

Yn ei heuraidd wisg mewn bri;

10Clyw, O ferch! a gwel — gogwydda

’N awr dy glust, a gwrandaw di:

Tyr’d o blith dy bobl dy hunan,

Fel gadawai Ruth ei gwlad,

Gad, a llwyr anghofia dithau,

O hyn allan dŷ dy dad.

11Felly ’r Brenin hoffa ’th degwch,

Ef yw’th Iôr a’th briod gwiw,

’Mostwng dithau ’n ufudd iddo,

Dy ragorfraint uchel yw;

12Daw merch Tyrus hithau âg anrheg,

Tywysogion pobloedd byd,

Oll ymbiliant â dy wyneb,

Ymostyngant iti i gyd.

13-14Merch y Brenin yn ei gemwisg

Aur sy’n ogoneddus iawn,

Oddi fewn ac oddi allan,

Mawr ganmoliaeth fydd i’w dawn;

Ac i lys ei Harglwydd Frenin

Mewn gogoniant, dygir hi;

Ei morwynion a’i dilynant,

Hwy a ddygir atat ti.

15Mewn gorfoledd a llawenydd

Dygir hwynt i’r llys yn wir,

16Daw y meibion yn lle’r tadau’n

Dywysogion yn y tir;

17Paraf gofio ’n mhob cenhedlaeth

Glod dy enw mawr dilyth,

Ac am hyny drwy yr oesau ’r

Bobl a’th foliannant byth.

Nodiadau.

Teitlir y salm hon yn “Gân Cariadau,” neu briodasgerdd: “rhyw frenin a wnaeth briodas i’w fab,” a’r mab hwnw yw testyn y gân hon. Ni ellir dyweyd gyda sicrwydd pwy a gyfansoddodd y gân; os Dafydd, fel y tybia llawer, gellir gofyn yn ngeiriau yr eunuch wrth Phylip, “Attolwg, am bwy y mae Dafydd yn dywedyd hyn? Am dano ei hun, ai am rywun arall?” Yn sicr, nid am dano ei hun; canys nid oes yn y gân ddim oll yn berthynasol i amgylchiadau Dafydd, ac ni lefarodd Dafydd ddim erioed am dano ei hun, fel y llefara yma. Ai am Solomon ynte? Felly y meddylia rhai — am Solomon mewn rhan: ac am y Messïah yn benaf hwyrach, megys drwy Solomon, medd ereill. Am y Messïah yn unig ac yn hollol, medd ereill drachefn:— ac felly tybiwn ninnau. Y mae llawer o ymadroddion yn y gân nad ydynt yn briodol i Solomon mewn un modd. Y mae y brenin yn y gân hon yn cael ei arddangos fel rhyfelwr a buddugoliaethwr mawr, ond “arfau ei filwriaeth ef nid ydynt gnawdol; ond gwirionedd a lledneisrwydd, a chyfiawnder,” gair a gweinidogaeth y cymmod. Ni bu Solomon erioed yn rhyfelwr a buddugoliaethwr mewn un ystyr fel Dafydd ei dad. Nid priodol, ond ammhriodol i’r eithaf fuasai dyweyd wrth Solomon, nac wrth un dyn a fu erioed ar y ddaear, “A’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy:” a mwy fyth yr ymadrodd “Dy orsedd di, O Dduw! sydd byth ac yn dragywydd,” & c. Priodola yr apostol (Heb. i. 8) yr ymadrodd hwn i’r Tad yn llefaru wrth y Mab, y Messiah.

Y mae y Salmydd wrth agor y gân yn amlygu yr ysbryd a’r teimlad a’i meddiannent ar y pryd:— “Traetha fy nghalon,” neu “Y mae fy nghalon yn berwi allan bethau da;” gan arwyddo ei fod wedi ei orlenwi gan y weledigaeth o ogoniant y brenin yr oedd yn myned i ganu iddo, yr hon a agorai yr ysbrydoliaeth ddwyfol yn awr o’i flaen, fel nas gallasai ymattal heb dywallt allan y meddyliau a ymgyfodent ac a ymferwent megys ynddo.

Wedi dadgan clod, harddwch, a gogoniant y Brenin, dygir y frenhines yn ei harddwch a’i gogoniant hithau yn mlaen, sef yr eglwys efengylaidd dan deyrnasiad y Messiah, yn cynnwys ffyddloniaid yr eglwys Iuddewig dan yr Hen Destament hefyd, a thraethir “gogoneddus bethau” am lwyddiant a gogoniant yr eglwys — y byddai i’r Cenhedloedd, “merch Tyrus, merched brenhinoedd, a chyfoethogion y bobl,” ddyfod i’w hanrhydeddu, ac i ymuno â hi, a’i gwasanaethu, y byddai i ogoniant y Brenin a’i frenhines gael ei ryfeddu a’i foliannu “yn mhob cenhedlaeth ac oes, hyd byth ac yn dragywydd.” Gallasai awdwr y gân ddywedyd yn ngeiriau Paul ar ol hyny, “Am Grist, ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help