1Os Duw nid adeilada ’r tŷ
Yn ofer y llafuria
Ei adeiladwyr wrtho ’n wir —
I lawr cyn hir y syrthia.
Y ddinas, onis ceidw Nêr
Gwaith ofer fydd ei gwylied;
Agored fydd hi nos a dydd
O newydd i ryw niwed.
2Er codi yn y boreu llwyr,
A myn’d yn hwyr i gysgu,
Heb fendith Duw ar waith y dydd,
Ni ddaw un budd o hyny.
Y bara a fwytei a fydd
Yn fara cystudd pryder,
Ond i’w anwylyd rhydd Duw da
Felusgwsg âg esmwythder.
3Rhodd Duw i ddyn yw plant, fe’u gwnaeth
Yn etifeddiaeth iddo;
A gwobr werthfawr iawn yn wir
Yw hono roddir ganddo.
5Gwyn fyd y gŵr yn ofn Duw fry
A fago lu o honynt;
Ni chaiff yn mhyrth y dref na’r wlad
Yr un sarhâd oddi wrthynt.
Nodiadau.
Cân i Solomon, medd ei theitl, yw hon; naill ai wedi ei chyflwyno iddo gan ei dad Dafydd, neu wedi ei chyfansoddi gan Solomon ei hun pan oedd yn adeiladu y deml, yr hyn a ymddengys yn debygol. Y mae o’r un natur o ran ei haddysg a Llyfr y Diarhebion a’r Pregethwr. Salm deuluaidd ydyw, fel rhai ereill o Ganiadau y graddau. Dysgir i ni ynddi ein cwbl ddibyniad ar Dduw am bob peth a berthyn i gynnaliaeth, ymgeledd, a chysuron bywyd — yn bersonol, teuluaidd, a chymdeithasol; ac mai ofer pob gofal, pryder, a llafur heb ei fendith ef, yr hon sydd yn mawrhau ac yn nerthu pob dim:— mai rhoddion gwerthfawrocaf Duw i ddyn ydyw plant, i’w dwyn i fyny yn ei addysg a’i ofn ef:— bod plant ieuaingc yn nwylaw eu rhieni fel saethau yn llaw perchen bŵa, i roddi cyfeiriad iddynt wrth eu gollwng oddi ar ei fŵa. Felly y mae y rhieni i gyfeirio meddyliau eu plant ato ef, yr hwn a’u rhoddodd hwynt, fel y sicrhäer iddynt ei fendith a’i ewyllys da, ac y byddant yn anrhydedd a chysur i’w rhieni a’u magodd, ac yn ddefnyddiol yn eu hoes. Y mae eu plant yn sicr o droi allan, naill ai y cysuron penaf, neu y croesau chwerwaf i’w rhieni; a dibyna pa un, i raddau helaeth iawn, ar ba fath addysg a meithriniaeth foesol a rydd y rhieni iddynt yn nhymmhor eu hieuengctid. Lle nad yw y rhieni yn ol yn y cyflawniad ffydd lawn o’u dyledswyddau tuag at eu plant yn ol Gair Duw, nid yw efe byth yn ol yn nghyfraniad ei fendith ar eu llafur er sicrhau y dyben.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.