1-3Da yw’r Arglwydd, ef clodforwch,
Duw y duwiau ydyw ef;
Arglwydd mawr yr holl arglwyddi,
Yn, ac oddi tan y nef:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
4-6’R hwn sy’n gwneuthur rhyfeddodau;
Mewn doethineb gwnaeth y nef;
Seilio’r ddaear ar y dyfroedd
Wnaeth â’i fraich alluog gref;
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
7-9Fe wnaeth oleuadau mawrion;
’R haul i lywodraethu’r dydd,
Lloer a sêr y nos i weini
Eu goleuni siriol sydd:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
Rhan II.8.7.4.
10-11’R hwn darawai gyntafigion
Gwlad yr Aipht, a dug yn rhydd
Israel, ei ddewisol bobl,
Allan o’u caethiwed prudd:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
12-14A llaw gref, a braich alluog,
Rhanodd y Môr Coch yn ddau;
Gwnaeth i Israel fyn’d trwy ’i ganol
Heb arswydo na llesghau:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
15-16Pharaoh a’i lu ’n y môr ysgytiodd,
Yno darfu am danynt mwy;
Trwy’r anialwch aeth â’i bobl,
Yn ddiogel t’wysodd hwy:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
Rhan III.8.7.4.
17-18T’rawodd ef frenhinoedd cryfion
Lawr i’r llwch yn ngrym ei lid;
Lladdodd benaduriaid enwog,
Barent ddychryn yn y byd:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
19-20Sehon, brenin yr Amoriaid,
Ydoedd un rhoes arno ball;
Og, y cadarn gawr o Basan,
Dychryn dynion, oedd y llall:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
21-22Rhoes eu tir yn etifeddiaeth
I’w ddewisol bobl ei hun,
Canys ef a bïau’r ddaear
Oll, a’i gwledydd bob yr un:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
Rhan IV.M. S.
23-24Yn ein hisel‐radd fe’n cofiodd;
Ac o law’n gelynion câs
Dug ni’n rhyddion i’w foliannu
Am ei ryfedd, ryfedd ras:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
25-26I bob cnawd y dyry ymborth;
Pery ei drugaredd ef
Yn dragywydd — O! clodforwch,
Am ei fawredd, Dduw y nef:
Yn dragywydd,
Ei drugaredd sy’n parhau.
Nodiadau.
Yr un yw mater a sylwedd y salm hon a’r salm o’r blaen, ond yn wahanol ei chyfansoddiad. Y mae y fawl‐wers, “O herwydd ei drugaredd sydd yn parhau yn dragywydd,” yn fyrdwn bob yn ail llinell ynddi o’r dechreu i’r diwedd, yn ol ordeiniad Dafydd i’r cantorion wrth foliannu’r Arglwydd (1 Cron. xvi. 41): ac a ddilynwyd gan Solomon wrth gyssegru y deml (2 Cron. vii. 3-6); a chan Iehosaphat (2 Cron. xx. 21). Llawer gwaith y llanwyd heolydd Ierusalem gan acenau moliant y salm hon gan y cantorion a’r cerddorion ar y gŵyliau arbenig, pan ymgynnullai y llwythau ynghyd i foliannu enw’r Arglwydd, ac yr amgylchynent ei dŷ â chaniadau clodforedd. Yr oedd priodoldeb mawr yn yr ymadrodd “yr hwn sydd yn cyfanneddu yn moliant Israel.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.