1Gwaeddais, llefais ar yr Arglwydd,
Pan y’m curid dan y dòn,
2A thywelltais fy myfyrdod
A’m holl gystudd ger ei fron:
3Pallodd f’ ysbryd,
Ti adwaenost ffordd dy was,
Yn y ffordd y rhodiwn cuddiai
Fy ngelynion fagl i’m traed;
4Deliais sylw ar y ddeheu —
Cynnorthwywr, un ni chaed:
Pallodd nodded,
Nid oedd help i’m henaid tlawd.
5Llefais innau arnat, Arglwydd,
A dywedais, Ti, fy Nuw,
Yw fy rhan a’m hetifeddiaeth
I o hyd yn nhir y byw:
6Ystyr dithau,
Wrth fy ngwaedd, can’s truan wyf.
Gwared fi oddi wrth f’ erlidwyr,
Maent yn llawer trech na mi;
7Dwg fy enaid o’i garchardy,
Minnau a’th foliannaf di:
A’r rhai cyfiawn,
Ddont o’m cylch, a llawenhânt.
Nodiadau.
Hysbysa teitl y salm hon i ni yn mha le y cyfansoddwyd hi; sef, pan oedd Dafydd yn ymguddio yn ogof Adulam. Yr oedd efe yn troi pob lle yr elai iddo yn dŷ gweddi. Nid oes nemawr i fynydd, na bryn, na glyn, nac ogof, yn ngwlad Palestina, na bu Dafydd yn gweddïo ynddynt. Rhoddwyd genedigaeth i salm yn mhob cẁr o honi, a hawdd i ni gredu ei fod ef etto yn cofio yn dda am bob un o’r manau hyny. Yr oedd efe newydd ddiangc o Gath, lle y buasai mewn perygl dirfawr yn llys Achis, pan y cymmerodd efe arno ynfydu yn ei ddychryn. Yr amser hwnw, am y waredigaeth o’r perygl hwnw, y canodd efe Salm xxxiv. Arferai bob dyfais a moddion diogelwch a allai, ond ei Dduw oedd ei graig a’i noddfa yr ymddiriedai ynddo. “Llefais arnat, O Arglwydd! a dywedais, Ti yw fy ngobaith a’m rhan yn nhir y rhai byw,” medd efe. Nid oes un ogof na chilfach yn nhir y rhai byw, nad oes ffordd i weddi y cyfiawn at Dduw o honi, nac un cyfyngder na pherygl nas gall efe waredu ei bobl o honynt. “Y rhai cyfiawn a’m cylchynant, canys ti a fyddi dda wrthyf,” medd efe:— pan oedd yn ogof Adulam, daeth tua phedwar cant o wŷr o Iudah ato i ymlynu wrtho fel eu tywysog a’u blaenor: 1 Sam ii. 1-3. At hyny, y mae yn debygol, y cyfeiria yn yr ymadrodd a goffawyd ar ddiwedd y salm. Yr oedd y gwŷr hyny wedi blino ar lywodraeth orthrymus Saul; ac yn ddiau, yn gwybod fod Samuel, wrth orchymyn Duw, wedi eneinio Dafydd i deyrnasu ar Israel; ac wrth weled mor rhyfedd yr oedd yr Arglwydd wedi ei gadw a’i waredu o law Saul laweroedd o weithiau, barnasant mai doeth a da fuasai iddynt ei wneyd yn gyfaill, drwy gydgyfranogi o’i drallodion, fel y dyrchefid hwy ganddo pan ddeuai i’r orsedd:— a diau iddo gofio a gwobrwyo eu caredigrwydd a’u ffyddlondeb hwy. Fel yr oedd hi gyda’r rhai hyny a ymgyssylltent â Dafydd yn ei drallodion, ac a ddyrchafwyd i anrhydedd pan ddaeth efe i’r orsedd, y bydd hi yn nheyrnas mab Dafydd hefyd:— “Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef; ond os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwâd ninnau;” 2 Tim. 2. 12.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.