1Y dydd gwnaeth yr Arglwydd ryddhau
Ei Seion i ddychwel i’w gwlad,
Yr oeddym yn debyg i rai
Mewn cwsg yn breuddwydio mwynhâd;
2Ein genau o chwerthin oedd lawn,
A’n tafod o ganu ’r un pryd,
Ymdeithiem yn hyfryd iawn, iawn,
Dan chwerthin a chanu o hyd.
Dychrynai’r cenhedloedd i’r byw,
Edrychent, a safent yn sỳn;
Ac meddent, “Yn wir, gwnaeth eu Duw
Beth rhyfedd a mawr i’r rhai hyn!”
3A ninnau attebem, “Gwir iawn:
Gwnaeth Duw bethau mawrion i ni,
Am hyny mae’n calon yn llawn
Llawenydd, er tristwch i chwi.”
4Iôr, dychwel ein brodyr sy’ ar led,
Yn ngwlad y caethiwed yn byw;
A gosod hwy ’n rhydd fel y rhed
Afonydd y de, O ein Duw!
5-6Y rhai sydd mewn tristwch yn hau,
A fedant yn llawen rhyw ddydd,
Gan gludo ’u hysgubau ’n ddiau —
Cynhauaf toreithiog a fydd.
Nodiadau.
Gellid meddwl mai ar y ffordd o Babilon i Seion y cyfansoddwyd y gân fywiog a melus hon, gan Ezra, neu un o feibion Asaph — y cerddor enwog yn nyddiau Dafydd. Yr oedd y prophwyd Micah yn ysbryd prophwydoliaeth, fwy na dau can mlynedd cyn hyny, wedi cyfansoddi cân o’r un sylwedd, i’w dodi yn ngeneuau y caethion ar eu dychweliad adref o’u caethiwed yn Babilon (Micah vii.); a diau fod llygad cyfansoddydd y gân hon ar y fan hono pan yn ei chyfansoddi. Y mae y disgrifiad o brofiadau y caethion dychweledig “fel rhai yn breuddwydio”, yn cymmysgu chwerthin â chanu, ynghyd â syndod a braw y cenhedloedd yr ymdeithient drwy eu gororau ar eu ffordd tuag adref, yn hynod fywiog, barddonol, a naturiol. “Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt” (medd Micah); “rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. Llyfant y llwch fel sarph; fel pryfaid y ddaear y symmudant o’u llochesau. Arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni, ac o’th achos di yr ofnant;” ac felly y dywed y gân hon eu bod.
Terfyna y salm mewn gweddi am i’r gwaith da oedd wedi ei ddechreu yn ngwaredigaeth y rhai oedd wedi cychwyn adref o wlad y caethiwed, gael ei berffeithio yn nychweliad eu brodyr oedd etto yn aros yn ol; a thraethir hyder cysurus am hyny — ac y caent hwy, a fuasent yn hau gweddïau mewn dagrau yn ngwlad y caethiwed, fedi cynhauaf llawn o orfoledd, wedi y dygid holl ysgubau y gaethglud adref i’r ysgubor yn Seion. Y mae yr Arglwydd yn dychwelyd caethiwed ysbrydol ei bobl etto, pan yn eu hadferu o’u dirywiadau, trwy dywalltiadau o’i Ysbryd arnynt, i beri adfywiad ar grefydd; a bu yr eglwys Gristionogol lawer gwaith, ar dymmhorau felly, yn y teimlad a’r profiad a draethir yn y salm hon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.