1Yr wyf yn galw arnat,
O Arglwydd! clyw fy llef,
2Fel arogldarth cyfeiriaf
Fy ngweddi tua ’r nef;
Dyrchafu wnaf fy nwylaw
Fel offrwm y prydnawn,
Ac wrthyt y disgwyliaf
Yn ddyfal, ddyfal iawn.
3A gosod di gadwraeth
O flaen fy ngenau o hyd,
A dysg fi wylio geiriau
Fy nhafod ar bob pryd;
4Fy nghalon cadw ’n wastad
Rhag syrthio dan dy ŵg,
Drwy fod yn gydgyfranog
A’r euog ddynion drwg.
5Y cyfiawn, pan fo achos,
Rhoed im’ garedig sên:
Na foed i’w holew penaf,
Un amser dori ’m pen;
Fy ngweddi a fydd etto,
Dros fy ngelynion drwg
Pan fyddo drygau arnynt,
Er im’ fod dan eu gŵg.
Rhan II.7.6.
6Pan syrthio i lawr eu barnwyr,
Mewn lleoedd creigiog cras,
Hwy glywant sain fy ngeiriau,
Can’s melus yw eu blas;
7Ar fin y bedd truenus
Mae’n hesgyrn ar wahân,
Yn wael eu drych — yn debyg
I goed holltedig mân.
8Ond arnat ti, O Arglwydd!
Y mae fy llygaid i,
Bydd i mi ’n graig a tharian,
Gobeithiais ynot ti;
Na âd fy enaid gwerthfawr
Yn ddiymgeledd fod,
Fel canwyf fi yn wastad,
D’ ogoniant a dy glod.
9O! cadw’m traed o’r maglau
Guddiasant hwy i mi,
Hoenynau dynion enwir
Sy’n aml iawn eu rhi’;
10Cydgwymped annuwiolion
Oll yn eu rhwydau ’u hun,
Tra ’r elwyf finnau heibio
Yn waredigol ddyn.
Nodiadau.
Salm berthynol i’r un tymmor a’r un o’r blaen yw hon etto:— fel yr oedd profedigaethau a thrallodion Dafydd yn y tymmor hwnw yn aml ac yn fawrion, yr oedd ei weddïau yn aml ac yn daerion iawn hefyd. Gweddïa yn y salm hon ar iddo gael ei gadw rhagddo ei hun, yn gystal a rhag ei elynion; am ras i gadw gwyliadwriaeth ar ei enau a’i eiriau, rhag iddo ddywedyd dim yn anweddus a phechadurus dan ei brofedigaethau; ac am i’w galon gael ei chadw rhag drwg feddyliau a drwg fwriadau, ac iddo fod felly yn debyg i, ac yn gydgyfranog â’r rhai drygionus yr oedd efe yn achwyn arnynt.
Wrth weddïo rhag maglau a drygau ei elynion, arwydda ei ddymuniad ar fod i ddynion da (y cyfiawnion) ei gynghori a’i geryddu yn onest, pan wnelai ar fai — y byddai hyny yn garedigrwydd iddo, fel tywallt olew tyner ar ei ben. Yna try ei olwg at ei elynion — Saul, a’i swyddogion — gan gyfeirio, y mae yn debygol, at y digwyddiad pan y cafodd efe ef a’i wŷr wedi syrthio mewn trwmgwsg mewn “lleoedd caregog,” wrth yr ogof yn Engedi, pan dorodd efe gẁr mantell Saul, ac y galwodd ar ol y brenin, gan ddangos cẁr ei fantell iddo, fel prawf o’i ddiniweidrwydd, gan y buasai mor hawdd iddo dori ei ben ef a thori cẁr ei fantell. Effeithiodd ymddygiad a geiriau Dafydd ar yr achlysur ar Saul fel y dyrchafodd ei lef ac y wylodd, ac y bendithiodd efe Dafydd, gan gydnabod ei hun ar fai: 1 Sam xxiv. Yr oedd appeliad Dafydd, a’r prawf a roddodd o’i ddiniweidrwydd, yn effeithiol ac yn felus i Saul a’i weision ar y pryd:— enghraifft nodedig o “bentyru marwor tanllyd ar ben gelyn,” ac o orchfygu drygioni trwy ddaioni.
Yn yr ymadroddion nesaf, cwyna Dafydd o herwydd ei gyflwr truenus ef a’i wŷr, oeddynt megys â’u hesgyrn ar wasgar fel coed holltedig ar fin y bedd, yn cael eu gyru i ffoi ac i ymguddio o fan i fan am eu bywyd; a chyflwyna eu hachos i Dduw — “noddfa y gorthrymedig yn amser trallod.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.